Cyfieithu i Ieithoedd Ewrop a'r Byd
Beth yw Bla2?
Gan ddatblygu ar dros ddegawd o brofiad yn cynnig gwasanaeth cyfieithu Cymraeg hynod lwyddiannus, rydym wedi datblygu Bla2, sef ein Huned Ieithoedd Rhyngwladol. Mae Bla2 yn galluogi cleientiaid i ffynnu mewn marchnad fyd-eang, drwy gynnig gwasanaeth cyfieithu gan arbenigwyr mewn amrywiaeth o ieithoedd Ewrop a’r byd. Gwasanaeth ardderchog a chyfleoedd amhrisiadwy.
01
Ymgynghoriad a Dyfynbris
Cysylltwch â ni gan nodi manylion eich prosiect neu uwchlwythwch friff. Byddwn yn trafod eich gofynion ac yn rhoi dyddiad dychwelyd a dyfynbris i chi, a hynny mewn 24 awr.
02
Cyfieithu ac Adolygu
Bydd ein Cyfieithwyr cymwys yn bwrw ati, gan sicrhau manwl gywirdeb a pherthnasedd diwylliannol.
03
Cyflawni a Chefnogaeth
Ar ôl adolygu’r gwaith, byddwn yn rhoi ein sêl bendith ar y cyfieithiad. Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben adeg honno; rydym yma i roi mwy o gymorth i chi.
Cyfathrebu â phawb
A ninnau’n Gymry glân gloyw, gwyddom fod parchu mamiaith eich cleientiaid yn dylanwadu’n sylweddol ar y modd maen nhw’n ymwneud â chi. Drwy siarad gyda nhw yn eu hiaith eu hunain, rydych chi’n dangos parch tuag at eu diwylliant, eu ffordd o fyw, a’u traddodiadau. Gall ein cyfieithwyr oresgyn rhwystrau iaith, gan gysylltu pobl â busnesau.
Drwy weithio gyda’n tîm o staff mewnol a’n gweithwyr llawrydd, rydym ni’n cynnig cyfieithiadau i nifer fawr o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Daneg, Hwngareg, Lithwaneg, Latfieg, Serbeg a’r Gymraeg wrth gwrs. Mae’r rhestr yn faith.
Goresgyn rhwystrau
Mae’r gwasanaeth hwn ar wahân i’n gwasanaeth cyfieithu a phrawfddarllen Cymraeg. Drwy weithio gyda chyfieithwyr cymwys yn unig, gallwn gwblhau cyfieithiadau i ieithoedd Ewrop a’r byd.
Rydym ni’n aelodau o’r European Language Industry Association, yr Institute of Translation and Interpreting a’r Association of Translation Companies. Mae ein ffioedd yn gystadleuol ac yn deg, cysylltwch â ni heddiw am ddyfynbris rhad ac am ddim.

Gair gan ein cleientiaid:
“Mae Bla yn rhagorol. Mae ansawdd a pha mor gyflym mae gwaith yn cael ei ddychwelyd yn arbennig ac yn siwtio ein prosiectau ni sydd weithiau yn gofyn am waith brys. Maen nhw wastad eisiau adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi ac maent yn dod i ddeall nodau’r prosiect cyn iddynt ddechrau arni. Byddem wastad yn argymell Bla ar gyfer eich holl waith cyfieithu ac rydym yn ddiolchgar am y berthynas yr ydym wedi’i magu gyda nhw dros y blynyddoedd.”
Rh E, Waters Creative
“Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bla ers sawl blwyddyn. Byddwn yn troi at Bla i gyfieithu popeth, o bolisïau swyddogol i gynnwys unigryw, a gwyddom y bydd Alun a’r tîm yn ymdrin â phob tasg yn ofalus, gan ddefnyddio iaith briodol. Mae Bla yn wynebu pob her newydd a gyflwynir iddynt, o recordio sain, i brawfddarllen dyluniad, a hynny oll gydag agwedd hwyliog – mae’n bleser gweithio gyda nhw.”
M P, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
“Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Bla ers nifer o flynyddoedd. Mae ansawdd y gwaith cyfieithu yn rhagorol, ac maent wedi deall i’r dim llais ein brand a’n harddull fel cwmni sy’n sicrhau cysondeb a manwl gywirdeb. Mae’n brofiad gwych gweithio gyda’r tîm yn Bla. Maent yn bodloni dyddiadau dychwelyd gwaith ac yn cyfathrebu’n brydlon a chyfeillgar.”
S E, Opera Cenedlaethol Cymru