Gwasanaethau cyfieithu Cymraeg ac ieithoedd rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau
Sut ydym ni’n gweithio
Cydweithio – Wedi ein sefydlu yn 2013 ac yn hynod frwd dros sicrhau dyfodol a datblygiad y Gymraeg, mae Bla yn fusnes sydd wedi mynd o nerth i nerth. Bellach, darparwn wasanaeth cyfieithu o ansawdd i sylfaen gleientiaid eang, o gwmnïau bach i gorfforaethau helaeth. Cyfieithiadau o ansawdd ar amser, bob amser.
01
Ymgynghoriad a Dyfynbris
Cysylltwch â ni gan nodi manylion eich prosiect neu uwchlwythwch friff. Byddwn yn trafod eich gofynion ac yn rhoi dyddiad dychwelyd a dyfynbris i chi, a hynny mewn 24 awr.
02
Cyfieithu ac Adolygu
Bydd ein Cyfieithwyr cymwys yn bwrw ati, gan sicrhau manwl gywirdeb a pherthnasedd diwylliannol.
03
Cyflawni a Chefnogaeth
Ar ôl adolygu’r gwaith, byddwn yn rhoi ein sêl bendith ar y cyfieithiad. Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben adeg honno; rydym yma i roi mwy o gymorth i chi.
Pam Bla?
Mae ein tîm mewnol a’n dull cydweithredol o weithio yn sicrhau ein bod yn deall cyd-destun unrhyw ddarn o waith a wnawn. Mae hyn yn ein caniatáu ni i gyflawni gwaith cyfieithu manwl gywir sy’n parchu diwylliant bob tro.
Gwasanaeth cyflym
Gellir dychwelyd prosiectau bach mewn cyn lleied â 24 awr
Wedi ennill gwobrau
Mae ein gwasanaeth cwsmer a'n manwl gywirdeb heb eu hail
Blaengar
Gwthio'r ffiniau a buddsoddi yn nyfodol y byd cyfieithu
Dros 10 mlynedd o brofiad
Partner cyfieithu y gallwch chi ymddiried ynddo i gwblhau prosiectau o bob maint

Ieithoedd Ewrop a'r Byd
Goresgyn rhwystrau cyfathrebu. A ninnau’n gwmni cyfieithu Cymraeg blaenllaw, gyda thros 10 mlynedd o brofiad, rydym yn falch o gyflwyno Bla2, sef ein Huned Ieithoedd Rhyngwladol. Rydym ni bellach yn cynnig gwasanaeth cyfieithu i ieithoedd Ewrop a’r byd. Un cyflenwr i ddiwallu eich holl anghenion.
Manteisio ar dechnoleg ddatblygedig
Rydym ni’n defnyddio Memo-Q i gwblhau ein cyfieithiadau. Yng Nghwmni Cyfieithu Bla, rydym ni’n defnyddio Memo-Q, adnodd cyfieithu blaenllaw, er mwyn cyfoethogi cywirdeb, cysondeb ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau cyfieithu. Mae’r dechnoleg ddefnyddiol hon yn cefnogi ein tîm i gynnig gwasanaeth cyfieithu o ansawdd drwy symleiddio llif gwaith, rheoli terminoleg, a sicrhau cydweithio rhwydd. Gyda Memo-Q, gallwn eich sicrhau y cewch gyfieithiadau manwl gywir, diwylliannol briodol, wedi’u teilwra i’ch anghenion chi.
Rydym ni’n aelodau o





Gair gan ein cleientiaid:
“Mae Bla yn rhagorol. Mae ansawdd a pha mor gyflym mae gwaith yn cael ei ddychwelyd yn arbennig ac yn siwtio ein prosiectau ni sydd weithiau yn gofyn am waith brys. Maen nhw wastad eisiau adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi ac maent yn dod i ddeall nodau’r prosiect cyn iddynt ddechrau arni. Byddem wastad yn argymell Bla ar gyfer eich holl waith cyfieithu ac rydym yn ddiolchgar am y berthynas yr ydym wedi’i magu gyda nhw dros y blynyddoedd.”
Rh E, Waters Creative
“Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bla ers sawl blwyddyn. Byddwn yn troi at Bla i gyfieithu popeth, o bolisïau swyddogol i gynnwys unigryw, a gwyddom y bydd Alun a’r tîm yn ymdrin â phob tasg yn ofalus, gan ddefnyddio iaith briodol. Mae Bla yn wynebu pob her newydd a gyflwynir iddynt, o recordio sain, i brawfddarllen dyluniad, a hynny oll gydag agwedd hwyliog – mae’n bleser gweithio gyda nhw.”
M P, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
“Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Bla ers nifer o flynyddoedd. Mae ansawdd y gwaith cyfieithu yn rhagorol, ac maent wedi deall i’r dim llais ein brand a’n harddull fel cwmni sy’n sicrhau cysondeb a manwl gywirdeb. Mae’n brofiad gwych gweithio gyda’r tîm yn Bla. Maent yn bodloni dyddiadau dychwelyd gwaith ac yn cyfathrebu’n brydlon a chyfeillgar.”
S E, Opera Cenedlaethol Cymru