Gyrfaoedd gyda Bla

ICP 281023 bla 01

Cyfleoedd gyrfa yn Bla

Mae ein cwmni yn tyfu'n barhaus, felly rydym wastad yn awyddus i benodi staff brwdfrydig i ymuno â'n tîm gweithgar. I gofrestru eich diddordeb mewn dilyn gyrfa yn Bla, anfonwch lythyr eglurhaol a chopi o'ch CV cyfredol at y Cyfarwyddwr, Alun Gruffydd: alun@bla-translation.co.uk

Buddion:
- Cyflog cystadleuol, sy'n ystyried cymwysterau a/neu brofiad blaenorol perthnasol sydd gennych chi
- Ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus, rhoddir contract parhaol i weithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener
- Hyfforddiant yn y swydd
- Cefnogaeth i ennill aelodaethau o gyrff proffesiynol perthnasol
- Hawl i ddefnyddio meddalwedd cyfieithu Memo-Q
- O leiaf 25 diwrnod o wyliau pro rata y flwyddyn (gyda gwyliau ychwanegol am ddim rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd)
- Cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd

Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top