Y diweddaraf gennym ni

Ble yn y byd yr ydym ni wedi bod?!
Ebrill 2024

Ymhlith y traddodiadau bach yr ydym ni wedi’u magu yma yn Bla mae ein casgliad hynod arbennig o fagnedau. Bob hyn a hyn, mae ein staff yn mwynhau dianc rhag pwysau bywyd bob dydd, ymlacio a gollwng ychydig o stêm. A pha ffordd well o wneud hynny na phacio bag a’i throi hi am y maes awyr?!

Gall y diwydiant cyfieithu gynnig gyrfa werth chweil ond gyda gofynion amrywiol brosiectau yn tynnu’n groes, nid yw’n swydd i’r gwangalon! Mae treulio amser ar wyliau gyda theulu a ffrindiau yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yma yn mwynau ei wneud yn ystod ein gwyliau blynyddol haeddianol. O dorri syched gyda choctel yn y canoldir, crwydro’r strydoedd mewn dinas yn Ewrop, neu fynd am antur yn ein mamwlad hyfryd, mae yna wastad wyliau bach i edrych ymlaen ato.

Mae un amod i hynny – mae’n rhaid i staff ddod â magned yn ôl gyda nhw er mwyn tystio eu holibobs. Mae ein casgliad yn tyfu gyda magnedau o gyrchfannau megis Llangollen a Latfia, Panama a Phortiwgal, ac Amsterdam ac Abertawe!!

Os nad oes magned ar yr oergell, yna aethoch chi ddim ar wyliau!! Y cwestiwn hollbwysig nawr ydy: i le’r yn y byd yr awn ni nesaf?


Gwneud Cysylltiadau
Ebrill 2024

Cafodd Alun gyfarfod buddiol iawn dros ginio efo Sara Robertson, Prif Weithredwr yr ITI (Institute of Translation and Interpreting), yng Nghaer ddydd Llun 15 Ebrill. Fel pennaeth y prif gorff proffesiynol sy’n cefnogi cyfieithwyr o bob iaith ym Mhrydain, a thu hwnt, roedd Sara yn awyddus i gael mwy o gefndir ynghylch sut mae cwmni fel Bla wedi datblygu a thyfu, a thrafod y daith o gychwyn fel cyfieithydd hunangyflogedig at redeg cwmni prysur a llwyddiannus. Roedd yn gyfle hefyd i Alun gael gwybod mwy am ddyheadau’r ITI a’r heriau sy’n wynebu’r maes cyfieithu dros y blynyddoedd nesaf.


Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Mawrth 2024

Diwrnod Rhyngwladol y Merched hapus gan bawb yn Bla!

Rydym yn ffodus iawn o gael merched mor anhygoel yn rhan o'n tîm - ac am ran maen nhw'n ei chwarae hefyd! Mewn gwirionedd, mae 88.889% o'n gweithlu yn Bla yn ferched! Gweithiant yn ddiflino y tu ôl i'r llen - diolch o galon i bob un ohonynt.


Croeso, Elena!
Mawrth 2024

Dyma Elena sydd wedi ymuno â'n tîm yn Bla fel Uwch-gyfieithydd. Yn y gorffennol, mae Elena wedi bod yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae wedi bod yn olygydd hefyd. Gyda chyfoeth o brofiad, mi fydd yn siŵr o wneud cyfraniad gwerth chweil at ein cwmni. Croeso mawr, Elena!

Ewch draw i'n tudalen staff i gael gwybod mwy am Elena a gweddill y tîm anhygoel sydd gennym yn Bla.


CYNHADLEDD ELIA, RIGA
Mawrth 2024

Ddiwedd mis Chwefror, mentrodd Alun i Riga yn Latvia er mwyn mynychu cynhadledd Together 2024 ELIA. Daeth nifer o bobl o'r un anian o ddiwydiant cyfieithu Ewrop ynghyd yn y digwyddiad hwn i gwrdd â'i gilydd a thrafod amrywiol agweddau ar gyfieithu, fel deallusrwydd artiffisial, technolegau cyfieithu a rheoli prosiectau. Digwyddiad buddiol tu hwnt a hynny mewn lleoliad anhygoel - edrych ymlaen at y nesaf!


Bla yn ymaelodi ag ELIA
Ionawr 2024

Blwyddyn newydd, aelodaeth broffesiynol newydd!

Mae Bla bellach wedi ymaelodi ag ELIA, neu'r European Language Industry Association, sef cymuned o thros 200 o gwmnïau gwasanaethau iaith. Mae datblygiad proffesiynol yn hollbwysig i ni yma yn Bla, felly mae ymaelodi ag ELIA yn gyffrous iawn! Cliciwch yma i weld ein proffil.

Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu gan ieithyddion eraill, rhwydweithio ag arbenigwyr o'r un anian a chyfrannu at y diwydiant cyfieithu drwy ELIA.


Stori Lwyddiant Nia
Ionawr 2024

Llongyfarchiadau i Nia, ein Cyfieithydd, sydd wedi llwyddo i ymuno â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dilyn arholiad yn rhoi ei sgiliau cyfieithu dan brawf ym mis Hydref 2023.

Ymunodd Nia â ni fel Cyfieithydd ym mis Tachwedd 2021 ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth. A hithau wedi dangos sgiliau ieithyddol cryf, mae'n bleser gennym ddweud bod Nia bellach wedi'i dyrchafu'n Uwch-gyfieithydd yma yn Bla.

Mae hi eisoes wedi cael dechrau arbennig i 2024 gyda Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn cyhoeddi mai Nia a enillodd y marciau uchaf drwy Gymru yn arholiad mis Hydref 2023. Go dda, rŵan!



CWMNI CYFIEITHU Y FLWYDDYN
Medi 2023

Bu Alun ac Anna yn Llundain fis Medi i fynychu Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo yr Association of Translation Companies gan fod Bla wedi'i enwebu am un o'r gwobrau.

Yr Association of Translation Companies (ATC) yw'r sefydliad mwyaf o'i fath yn cynrychioli cwmnïau cyfieithu y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae Bla wedi bod yn aelod proffesiynol o'r ATC ers sawl blwyddyn bellach ac mae'n llwyfan arbennig ar gyfer ieithyddion o'r un anian - y cawsom y pleser o gwrdd â rhai ohonynt yn y digwyddiad hwn.

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo drawiadol ar gwch crand o'r enw 'The Jewel of London' ar yr afon Tafwys. Cawsom olygfeydd godidog o Lundain o dan olau'r lleuad, ond uchafbwynt y noson oedd ennill y brif wobr, sef Cwmni Cyfieithu y Flwyddyn!

Am gyflawniad anhygoel a phrofiad bythgofiadwy. Pleser pur yw gweld ein gwaith caled a'n dyfalbarhad yn ennill cydnabyddiaeth ar y fath lwyfan. Llongyfarchiadau i'n tîm o staff gweithgar a diolch o galon i'n cleientiaid sy'n troi atom dro ar ôl tro! Rydym yn wên i gyd.


Pen-blwydd Bla-pus!
Medi 2023

Rydym wedi mwynhau cyfnod o fyfyrio a dathlu yn HQ Bla a ninnau wedi cyrraedd carreg filltir arbennig wrth i Bla droi'n ddeg oed!

Datblygodd Alun y cwmni o'i ystafell sbâr ac mae bellach yn cyflogi deg o bobl leol ac yn gwasanaethu cleientiaid lu o Gymru a thu hwnt.

Mae dathlu'r degawd yn gyflawniad anhygoel, yn enwedig o ystyried yr heriau sydd wedi wynebu pob un ohonom yn ddiweddar, megis COVID-19.

Hoffem ddiolch i bob un wan jac o'n cleientiaid hyfryd, yr ydym wedi ffurfio perthnasoedd gweithio a chyfeillgarwch â nhw dros y blynyddoedd - byddai hyn yn amhosibl heboch chi!

Dyma edrych ymlaen at y degawd nesaf!



Cydnabyddiaeth Arall i Bla
Medi 2023

Mae hi'n brysur iawn yma yn swyddfa Cwmni Cyfieithu Bla wrth i ni gyhoeddi ein bod wedi ein dyfarnu ag achrediad ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg, sef y Cynnig Cymraeg.

A ninnau'n gwmni cyfieithu, mae'r Gymraeg yn allweddol i'n bywydau a'n bywoliaeth. Mae'r ardystiad penodol hwn yn dangos ein hymrwymiad diysgog i'n hiaith frodorol hyfryd a dwyieithrwydd ym myd busnes yng Nghymru!

Mae rhai o'n cleientiaid eisoes wedi mynd ati i gyflawni'r Cynnig Cymraeg, ac wedi llwyddo i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd, felly dyma eich llongyfarch chi i gyd! Rydym yn hynod falch o allu cyfrannu at eich defnydd o'r Gymraeg, rydym wirioneddol wrth ein bodd yn gweithio gyda'n cleientiaid.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y Cynnig Cymraeg a sut allwn ni yn Bla eich helpu chi ar y daith honno, mae croeso i chi gysylltu ag Anna drwy anna@bla-translation.co.uk.



Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top