Y diweddaraf gennym ni

Ffion yn ffynnu
Gorffennaf 2023

Llongyfarchiadau mawr i'n Swyddog Cyllid, Ffion, am lwyddo yn ei chwrs AAT Lefel 3! Mae ei gwaith caled a'i hymroddiad yn ystod ei hastudiaethau yn sicr wedi talu ar eu canfed ac rydym yn hynod falch drosti. Pleser o'r mwyaf yw gweld ein staff yn datblygu. Go dda wir!


Elan yn Llwyddo
Mehefin 2023

Llongyfarchiadau i Elan, ein Cyfieithydd, sydd wedi llwyddo yn arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Arbennig, Elan, da iawn wir!


Gŵyl Cefni
Mehefin 2023

Wedi cryn gyffro, cafwyd penwythnos arbennig o dda yn Gŵyl Cefni eleni. Am brofiad braf oedd clywed y dorf yn morio canu yn y Gymraeg. Pleser i Bla oedd noddi digwyddiad mor llwyddiannus ar ein hiniog – llongyfarchiadau i bawb ynghlwm!


Gwaith sychedig
Mai 2023

Mae cyfieithu yn waith sychedig felly defnyddiol iawn yw’r oerydd dŵr hwn yn ein swyddfa. Diolch i Gary o Nant y Mynydd am ein cyflenwi â dŵr ffres, oer, blasus. Rydym ni’n barod am dywydd poeth!


Croeso!
Ebrill 2023

Yn dilyn ymgyrch recriwtio llwyddiannus, pleser gennym yw cyhoeddi bod aelod newydd wedi ymuno â'n tîm. Estynnwn groeso cynnes iawn i Guto, sydd wedi ymuno â ni fel Cyfieithydd. Does dim dwywaith y bydd yn gaffaeliad gwych i Bla. Llongyfarchiadau, Guto!


Swyddog Datblygu Busnes
Ionawr 2023

Datblygiadau pellach yma yn Bla, wrth i Anna Lewis gael ei phenodi fel ein Swyddog Datblygu Busnes newydd. Fel un o'n Huwch Gyfieithwyr yma yn y cwmni, bydd Anna yn rhannu ei hamser rhwng ei gwaith cyfieithu a'r swydd newydd hon i ddenu mwy o fusnes. Mae Anna eisoes wedi cychwyn arni ac edrychwn ymlaen at gyfnod prysurach fyth yma yn Bla.


Pod Busnes Newydd
Ionawr 2023

Rydym newydd gwblhau adeiladu pod busnes newydd yma yn ein swyddfeydd. Bydd y pod yn cael ei ddefnyddio gan ein Swyddog Datblygu Busnes newydd, Anna Lewis, i ddatblygu ein busnes ymhellach yn y gobaith y gallwn ddenu rhagor fyth o gwsmeriaid!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r gwaith gwych!


Llwyddiant i Sian
Rhagfyr 2022

Llongyfarchiadau i Sian, un o'n criw o gyfieithwyr sydd wedi llwyddo yn ei harholiad i ddod yn aelod cymwys o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru


Swydd ar gael
Hydref 2022

Rydym yn chwilio am gyfieithydd newydd i ymuno â'r criw gwych sydd yma! Cysylltwch ag Alun : alun@bla-translation.co.uk


Noddi Gwobr Fusnes
Hydref 2022

Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i noddi un o'r prif gategoriau yng Ngwobrau Busnes y Daily Post eleni. Llwyddom i ennill un o'r gwobrau yn 2018 ac mae'n anrhydedd cael rhoi ein henw yn erbyn y categori Busnes Mawr Gorau eleni yn y gystadleuaeth. Cynhelir y noson wobrwyo ym mis Rhagfyr. Darllenwch yr erthygl ar ein cwmni ar gyfer y digwyddiad yn y ddolen isod

https://www.business-live.co.uk/special-features/putting-language-culture-heart-what-25140551


Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top