Y diweddaraf gennym ni

Animeiddiad Newydd
Ebrill 2022

Fe welwch ar brif dudalen y wefan ein bod wedi datblygu animeiddiad newydd o logo Bla. Prosiect gydag Emma Hewson oedd hwn https://emmahewson.co.uk/ a chawsom lawer iawn o hwyl yn creu syniad efo Emma a fyddai'n dod â'r logo'n fyw. Fe ddatblygodd Emma gerdyn Nadolig ar ein cyfer hefyd y llynedd ac mae'r animeiddiad newydd yn estyniad pellach o'r gwaith hwnnw. Mae'r animeiddiad i'w weld ar Youtube hefyd, gyda cherddoriaeth wedi'i chynnwys. Os yw'n fwriad gennych ddatblygu animeiddiadau fel hyn fel rhan o'ch gwaith, neu unrhyw beth arall, cysylltwch ag Emma, mae hi'n wych.

https://youtu.be/xtvRrVUpUuM



Ceri'n Concro Caerdydd
Mawrth 2022

Rydym mor falch o lwyddiant Ceri yn Hanner Marathon Caerdydd! Llwyddodd Ceri i gwblhau'r ras mewn tywydd eithriadol o gynnes mewn dwy awr. Da iawn Ceri, ymlaen i'r ras nesaf rwan.....!


Diwrnod wrth ddesg y cyfieithydd - gan Margiad Dobson
Mawrth 2022

“Mae cyfieithu yn allweddol i ddatblygu cynlluniau iaith corfforaethol yn ogystal â grymuso cymunedau.”

Rwy’n credu bod “grymuso” yn air da iawn i’w ddefnyddio wrth sôn am gyfieithu. Nid yn unig rydych yn grymuso’ch gallu ieithyddol a’ch dealltwriaeth o’r agweddau ar y Gymraeg, ond rydych hefyd yn cael eich grymuso fel Cymro neu Gymraes.

Ers dechrau fy swydd gyntaf fel cyfieithydd bron i dair blynedd yn ôl, teimlad fy mod wedi cael ymdrin â’r Gymraeg mewn sawl ffurf wahanol, ac wedi cyfoethogi fy nealltwriaeth o sefyllfa’r iaith yn ein cornel fach ni yn y byd mawr ‘ma, Cymru fach.

Nid mater o drosi testun air am air o un iaith i’r llall yw cyfieithu. Fel pob proses o weithgynhyrchu mae yna reolau i’w dilyn, safonau i’w cynnal a golygyddion i’w plesio!

Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn gyfieithydd profiadol o bell ffordd eto, ond dwi’n teimlo’n ddigon hyderus bellach i roi cynnig ar amrywiaeth o waith. Un o fy hoff elfennau o gyfieithu yw cael rhoi cynnig ar amrywiaeth eang o waith, o bosteri i erthyglau, polisïau ac ambell slogan!

Gan amlaf, byddaf yn dechrau'r broses gyfan drwy ddarllen y darn o’m blaen er mwyn dod i ddeall naws, cyd-destun a chynnwys y darn. Byddaf yn ceisio peidio â chrwydro’n rhy bell oddi wrth y Saesneg, er mwyn osgoi colli ystyr y darn, ond mae rhai darnau’n caniatáu peth ryddid i’r cyfieithydd roi ei stamp ei hun ar y gwaith, hynny ydi, newid ambell gystrawen, torri brawddegau a symleiddio’r iaith.

Y darnau hynny y byddaf yn eu ffafrio gan amlaf, er hynny, byddaf wastad yn mwynhau rhoi cynnig ar ddarn o waith swmpus sy’n cyflwyno cryn her i’r cyfieithydd ac sy’n gofyn am waith ymchwil trylwyr. Rwyf hefyd yn hoff o wahaniaethu rhwng yr iaith ffurfiol ac anffurfiol. Waeth beth yw’r darn o’m blaen, byddaf yn dysgu rhywbeth ohono bob tro, a thrwy ddilyn y broses hon o ddarllen, cyfieithu a golygu, rwy’n sicrhau fy mod yn cynnal cysondeb ac yn cyflwyno gwaith sydd o’r ansawdd orau.

Agwedd arall ar gyfieithu rwy’n ei mwynhau yw’r cyfle i ddefnyddio meddalwedd benodol i gefnogi'r broses gyfan. Cyn dechrau fy swydd bresennol, nid oeddwn wedi cael cyfle i ddefnyddio meddalwedd o'r maes cyfieithu, ac felly roedd dod i arfer â defnyddio meddalwedd o’r fath yn ddyddiol yn gryn her ar y dechrau. Wedi rhai wythnosau o ddod i adnabod y swyddogaethau a’r nodweddion oedd gan MemoQ, sef y feddalwedd a ddefnyddir yma yn Bla, i’w cynnig, roedd y broses gyfieithu'n llifo’n llawer gwell.

Cyn dechrau fy swydd bresennol, nid oeddwn wedi gweithio mewn rôl “swyddfa” o’r blaen, ac roeddwn yn eithaf pryderus am orfod eistedd o flaen cyfrifiadur o ddydd i ddydd yn darllen a chyfieithu bob yn ail. Roeddwn yn bryderus am flino a diflasu ar y ffordd hon o weithio; i’r gwrthwyneb, am fy mod yn ymgolli fy hun yn llwyr yn y gwaith, mae’r oriau’n hedfan heibio, a dydw i ddim wedi profi diflastod na chael eiliad i droi fy modiau ers i mi ddechrau’r swydd hon bron i dair blynedd yn ôl.

Darlun bach iawn o’m profiad o’r maes cyfieithu yw hwn, ac mae sawl elfen ac agwedd arall y gellir eu trafod. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael datblygu fel cyfieithydd, gweld i ba gyfeiriad y bydd yr yrfa hon yn fy arwain a sut y bydd y Gymraeg yn datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.


Gwella Gwefan
Chwefror 2022

Gyda staff newydd wedi ymuno dros yr wythnosau diwethaf, cawsom gyfle i dynnu lluniau newydd (diolch i Richard Jones https://www.facebook.com/Lluni... ). Mae'r adran Staff wedi'i diweddaru'n llwyr - cymerwch sbec!


Ac un arall!
Chwefror 2022

Ac ym mis Ionawr fe ymunodd Sian Hydref efo'r criw. Mae Sian yn gyn-athrawes a Phennaeth Adran Gymraeg un o ysgolion uwchradd yr ynys. Croeso cynnes Sian fel Cyfieithydd. Gyda'r holl staff mae yna dipyn o waith cofio'r rhestr baned erbyn hyn!


Cyfieithydd Newydd!
Chwefror 2022

Mae'r criw yn tyfu eto fyth. Mae Nia Morus Lovelock wedi ymuno fel Cyfieithydd ers mis Rhagfyr. Mae Nia'n byw yma yn Llangefni ac mae ganddi brofiad sylweddol fel athrawes ac yn barod am gyfeiriad newydd yn ei gyrfa. Croeso Nia!


Aelodaeth lawn o'r ITI i Anna
Ionawr 2022

Llongyfarchiadau i Anna, un o'n Huwch Gyfieithwyr, am lwyddo i ennill ei haelodaeth lawn o'r Institute of Translation and Interpreting yn ddiweddar, yn dilyn cais trylwyr a manwl cyn y Nadolig. Mae'n bleser gweld ein staff yn datblygu eu cymwysterau proffesiynol o fewn y cwmni.


Aelodaeth Gyswllt o'r ITI i Margiad
Ionawr 2022

Mae un o'n cyfieithwyr wedi llwyddo i ennill aelodaeth gyswllt o'r Institute of Translating and Interpreting. Llongyfarchiadau i Margiad yn dilyn yr holl waith caled gyda'r cais yn ddiweddar a phob lwc efo'r cam nesaf o fewn y broses.


Swyddfa newydd arall
Ionawr 2022

Ystafell arall wedi'i hychwanegu at ein casgliad o swyddfeydd yn Neuadd y Dref. Ystafell gyfarfod fach, cyfrifiadur ar gyfer Zoom neu Teams neu lonyddwch i gwblhau tasgau cymhleth, neu hyd yn oed dawelwch dros ginio!


Ein Swyddog Cyllid Newydd!
Chwefror 2020

Wrth orfod ffarwelio ag Eirwen a fydd yn ymddeol cyn hir, rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo i benodi swyddog cyllid medrus iawn i lenwi'r bwlch. Bydd Rachel Hodge yn ymuno â ni o fis Ebrill, sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn swyddi cyllidol yn y sector preifat. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu Rachel i'r swyddfa, ac yn ôl i Fôn, fel aelod pwysig iawn o'r tîm!


Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top