Polisi Preifatrwydd Bla Translation
Mae gwefan Bla Translation (https://bla-translation.co.uk/) yn gosod cwcis, sef ffeiliau data bychan, ar eich cyfrifiadur neu ddyfais a ddefnyddir yn eich llaw. Mae hon yn weithred arferol ar gyfer pob gwefan.
Mae cwcis yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddarparu gwefan a phrofiad ar-lein o’r radd flaenaf i’n defnyddwyr, ac mae rhai cwcis yn casglu gwybodaeth ynghylch ymddygiad pobl ar wefannau.
Drwy ddefnyddio a phori drwy wefan Bla Translation, rydych yn rhoi eich caniatâd i gwcis gael eu defnyddio’n unol â’n polisi. Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, rhaid i chi analluogi’r cwcis neu beidio â defnyddio’r wefan.
Mae’r cwcis hyn yn rhoi caniatâd i ni eich gwasanaethu’n well, gan roi gwybodaeth benodol a defnyddiol i chi am ein gwasanaethau.
Mae ein gwefan yn cydymffurfio â GDPR ac rydym wedi sicrhau bod y rhagofalon angenrheidiol gennym ar waith i storio a chasglu data ar gyfer y wefan a storio’r data hwn ar systemau eraill ac ar-lein.
Mae'r polisi preifatrwydd hwn wedi ei baratoi i roi gwasanaeth gwell i’r rhai a allai fod yn pryderu ynghylch sut mae eu ‘Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy’ (PII) yn cael ei defnyddio ar-lein. Mae PII, yn unol â’r hyn a ddefnyddir mewn cyfraith preifatrwydd y DU a’r UE a diogelwch gwybodaeth, yn wybodaeth i’w defnyddio’n unigol neu ynghyd â gwybodaeth arall, i adnabod, cysylltu â, neu leoli person unigol, neu i adnabod unigolyn mewn cyd-destun. Darllenwch ein polisi preifatrwydd yn ofalus er mwyn i chi gael dealltwriaeth glir o’n dull o gasglu, defnyddio, diogelu eich Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy a’i thrin yn gyffredinol, yn unol â’n gwefan.
Pa wybodaeth bersonol a gasglwn gan y bobl sy’n ymweld â’n blog a/neu wefan?
Wrth archebu neu gofrestru ar ein gwefan, efallai y gofynnir i chi, yn briodol, i roi eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn neu fanylion eraill i’ch helpu gyda’ch profiad.
Pa bryd ydym yn casglu gwybodaeth?
Rydym yn casglu gwybodaeth gennych pan gofrestrwch ar ein gwefan, tanysgrifio i gylchlythyr, ymateb i arolwg, cwblhau ffurflen neu roi gwybodaeth ar ein gwefan.
Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth?
Gallem ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn gennych chi pan gofrestrwch, tanysgrifio i’n cylchlythyr, ymateb i arolwg neu gyfathrebiad marchnata, pori drwy’r wefan, neu ddefnyddio nodweddion penodol eraill ar y wefan, yn y ffyrdd canlynol:
I bersonoli profiad y defnyddiwr a’n galluogi i ddarparu’r math o gynigion cynnwys sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
I wella’n gwefan er mwyn cynnig gwell gwasanaeth i chi.
I’n galluogi i’ch gwasanaethu’n well wrth ymateb i’ch ceisiadau gwasanaeth cwsmer.
I weinyddu cystadleuaeth, ymgyrch, arolwg neu nodweddion eraill ar y safle.
I anfon negeseuon e-bost achlysurol ynghylch eich ymholiad neu gynnyrch neu wasanaethau eraill.