Handshake

Gwasanaethau a Datblygu Busnes

031

Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg

Mae’r ystod o waith cyfieithu a gwblheir gan Bla Translation yn eang iawn, gan gydweithio’n agos â chleientiaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd yn ogystal â sefydliadau o’r trydydd sector. O bosteri i faneri i adroddiadau a maniffestos cynhwysfawr, mae Bla Translation yn cynnig gwasanaeth proffesiynol, prydlon a chywir am bris cystadleuol. Cynigir gwaith prawfddarllen a golygu yn ogystal.

Delir â phob ymholiad yn gyflym ac nid yw gwaith brys dros nos a thros benwythnos yn broblem ac ni fydd hynny’n costio mwy i’r cleient.

Mae Bla Translation yn cynnig system ‘gredyd’ hefyd yn ogystal â’i wasanaeth arferol. Mae’r system hon yn galluogi amryw o gleientiaid i gyflwyno darnau byrion a rheolaidd o waith i’w cyfieithu, ac yn hytrach nag anfonebu’r cleient am y gwaith hwn am symiau bychain o arian yn ddi-baid, mae Bla Translation yn gweithredu system ‘gredyd’ a brynir ymlaen llaw gan ychwanegu at y credydau yn ôl y gofyn.

Mae’r cwmni’n falch o’i enw da fel un hynod hyblyg. Cais munud olaf yw cyfieithiad yn aml iawn, rhywbeth a anghofiwyd gan y cleient, ac sydd ei angen yfory neu heddiw hyd yn oed – ond anaml iawn y mae Bla Translation yn methu â chyflawni tasg sydd ag amserlen afresymol! Gall diwrnod o waith arferol gynnwys cyfieithu arwyddion marchnata bachog i archfarchnad blaenllaw, cwblhau geirfa ar rywogaethau bywyd gwyllt, cyflwyniad i waith operatig dwys, neu strategaeth gynllunio gynhwysfawr i awdurdod lleol.

Waeth beth yw’r dasg dan sylw, yr hyn sy’n bwysig yw cyfieithu’r ystyr a deall safbwynt a neges yr awdur. Sicrheir hefyd y bydd darnau sydd yn dafodieithol neu sydd angen adlewyrchu ardal benodol o Gymru, yn cael eu cyfieithu gyda hynny mewn golwg bob tro.

Mae Bla Translation yn cynnig prisiau rhesymol a chystadleuol ac yn fodlon cyflwyno amcanbrisiau heb ymrwymo’r cleient i gynnig y gwaith i ni. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn aelodau unigol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru tra mae eraill ar gychwyn y daith honno ac fel cwmni rydym wedi llwyddo i ddod yn aelod corfforaethol o'r Institute of Translators and Interpreters, sydd yn gorff rhyngwladol uchel iawn ei barch ac yn aleod corfforaethol hefyd o'r Association of Translation Companies (ATC).

Business Development

Nod cwmni Bla yw parhau i ddatblygu rhagor o fusnes, ond heb anghofio wrth gwrs am ein perthynas gref gyda'n cleientiaid presennol. Bellach mae Anna Lewis yn gweithio fel ein Swyddog Datblygu Busnes law yn llaw â'r gwaith fel Uwch Gyfieithydd. Fel cyfieithydd profiadol a chymwys, mae Anna yn sylweddoli cystal ag unrhyw un, bod angen proffesiynoldeb a gwasanaeth dibynadwy ym mhob rhan o'n gwaith. Nod Anna, yn yr elfen fusnes o'i swydd, yw cysylltu'n uniongyrchol â'n cleientiaid, y rhai sydd efallai ddim yn ein defnyddio'n rhy aml, a cheisio denu cleientiaid newydd a all elwa o greu deunydd dwyieithog ar gyfer eu cwmni neu sefydliad. Ein nod hefyd yw tyfu ymhellach fel cwmni, bod yn fwy weledol fyth trwy ein gwaith ac ar gyfryngau cymdeithasol, a bydd Anna'n awyddus iawn i ddatblygu ystod ein prosiectau i gynnwys contractau mwy swmpus gan ymgeisio am gytundebau mwy sylweddol a heriol.


Os hoffech gysylltu ag Anna i drafod unrhyw brosiect, mae croeso i chi wneud hynny: anna@bla-translation.co.uk

Business Development

Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top