Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR
Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818
E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk
Mae Alun wedi bod yn cyfieithu’n broffesiynol ers iddo gwblhau cwrs ôl-raddedig mewn cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor ac Aberystwyth bron i 20 mlynedd yn ôl a llwyddo i ymuno â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ystod yr un cyfnod drwy eu cynllun arholi. Rhwng 1992 a 2013 gweithiodd ym maes archaeoleg, amgueddfeydd a threftadaeth a sefydlodd gwmni cyfieithu Bla yn 2012 gan neidio i faes busnes go iawn i redeg y cwmni’n llawn amser flwyddyn ar ôl hynny, o’i gartref i ddechrau. Yn raddol, wrth i’r cwmni dyfu, llwyddodd Alun i benodi cyfieithwyr a gweinyddwyr eraill i ymuno ag ef a bellach mae yna griw o 11 yn y swyddfa. Llwyddodd Alun i ddod yn aelod personol llawn o'r Institute of Translation and Interpreting (MITI), yn 2019.
I ffwrdd o'r gwaith mae Alun yn mwynhau gwastraffu amser yn yr ardd yn meddwl am syniadau newydd, cadw ieir a hwyaid swnllyd, gwisgo fel chav ddwywaith yr wythnos fel hyfforddwr pêl-droed i ddynion, nosweithiau allan am bryd o fwyd ac ambell i lymaid, a rhedeg a chadw'n heini er mwyn dadwneud y gorfwyta ac un botel o win yn ormod.
Darllenwch gefndir ein criw o staff isod os gwelwch yn dda. Yn syml iawn ni fyddai Bla wedi cyrraedd ei lefel o lwyddiant heb yr unigolion talentog a gweithgar hyn; mae dyled Alun yn fawr iddynt.
Ni all yr un cwmni fodoli heb weinyddwyr medrus! Ceri a Ffion sy’n gyfrifol am gynnal y swyddfa gan sicrhau bod y cyfan yn rhedeg yn berffaith. Cawn ryw 50 o geisiadau bob dydd, felly mae’n dipyn o dasg!
Ceri sy’n gyfrifol am ddelio â’r holl geisiadau cyfieithu a ddaw i mewn drwy’r system e-bost, gan brisio’r gwaith, sefydlu amserlen, trefnu’r cyfieithiad gydag un o'n cyfieithwyr a sicrhau bod y cyfan yn cael ei ddychwelyd i’r cleient yn brydlon. Ceri yw eich pwynt cyswllt cyntaf felly ar gyfer unrhyw waith, ar office@bla-translation.co.uk
Ffion sy’n cadw trefn ar yr elfennau ariannol o’r cwmni, gan godi anfonebau, sicrhau rhifau archeb a chadw llygad ar y taliadau a ddaw i mewn yn erbyn y system. Gallwch gysylltu â Ffion ar Ffion@bla-translation.co.uk
Ymunodd Ffion yn yr Hydref yn 2021 a hi yw ein Swyddog Cyllid.
Mae'n dod â phrofiad helaeth o waith gweinyddol o'r sectorau addysg a chyhoeddus ac ar hyn o bryd mae hi'n cwblhau cymhwyster mewn Cyfrifeg. Ffion sy’n gyfrifol am y gwaith anfonebu dyddiol o fewn y busnes a chadw llygad ar y taliadau ac am gysylltu gyda'n cleientiaid a'n cyfrifwyr ar unrhyw fater cyllidol, yn ogystal ag ymdrin ag unrhyw ymholiadau ariannol cyffredinol.
Ymunodd Ceri â thîm gweinyddol Bla ym mis Mai 2018 wedi iddi fod yn Was Sifil am 20 mlynedd mewn amryw o rolau o fewn ei hadran. Dros y 13 blynedd diwethaf bu Ceri'n gweithio yn y sector Iaith Gymraeg a braf yw cael ei phrofiad sylweddol yma yn Bla. Ceri yw ein prif gyswllt ar gyfer ein cwsmeriaid, yn cynnig dyfynbrisiau, trefnu amserlenni’r cyfieithiadau a dyrannu’r gwaith cyfieithu ymysg y cyfieithwyr. Yn ei gwaith yn rheoli prosiectau, mae Ceri wedi datblygu a goruchwylio amryw o welliannau i'n gweithdrefnau presennol yn enwedig ein systemau meddalwedd. Dros y 6 mlynedd diwethaf mae Ceri wedi mwynhau gweld y cwmni'n mynd o nerth i nerth. Cafodd Ceri ei magu ar yr ynys ac wrth ei bodd yma. Mae'n mwynhau teithio a chanfod llefydd difyr ac mae ganddi lygad dda am fargen!
Mae gennym chwe cyfieithydd.
Nerys, Nia ac Elena yw ein Huwch-gyfieithwyr. Mae pob darn o waith yn cael ei brawfddarllen cyn ei ddychwelyd i’r cleient a Nerys, Nia ac Elena sydd yn bennaf gyfrifol am y gwaith hwnnw, yn ogystal â chwblhau gwaith cyfieithu eu hunain. Maent yn cynnig cymorth allweddol i weddill ein criw o gyfieithwyr prysur.
Gyda'i gilydd, mae ein cyfieithwyr yn cwblhau'r rhan helaeth o waith craidd y cwmni, gan amrywio o baragraffau byrion sydd eu hangen ar frys i ddogfennau mwy manwl ac adroddiadau dros gyfnod hirach. O negeseuon bachog ar gyfer archfarchnadoedd i adolygiadau cymhleth o’r byd celfyddydol, mae pob diwrnod yn wahanol ac yn cynnig amrywiaeth o heriau ieithyddol!
Yn aml iawn, mae cymaint o waith ar ein dwylo nes i ni orfod dibynnu ar amryw o gyfieithwyr annibynnol a chymwys sy’n llwyddo i’n helpu yn rheolaidd ac rydym yn ddiolchgar am eu parodrwydd bob amser.
Rydym hefyd yn defnyddio systemau cof cyfieithu, neu offer CAT ar gyfer ein gwaith, gan roi’r gallu i ni gynhyrchu a chydlynu mwy o brosiectau swmpus gan asiantaethau cyfieithu eraill yma yn y Deyrnas Unedig.
Ymunodd Nerys â’r cwmni ym mis Mai 2017 ac mae hi bellach yn Rheolwr Cyfieithu (Ansawdd) yn Bla. Dechreuodd ei gyrfa fel cyfieithydd yn 2005, mewn dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn. Aeth ymlaen i weithio fel cyfieithydd i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd, ac yna fel uwch-gyfieithydd yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Mae ganddi brofiad o gydlynu prosiectau cyfieithu, prawfddarllen, safoni terminoleg a defnyddio meddalwedd cof cyfieithu. O ran cymwysterau, mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o Brifysgol Bangor a chymhwyster ôl-radd mewn cyfieithu (Tystysgrif Prifysgol Cymru mewn Cyfieithu). Mae hefyd yn aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ymunodd Anna â’r tîm fis Mehefin 2018, wedi iddi gyflawni gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Gan weithio’n llawn amser yn Bla, aeth Anna ati i barhau â’i datblygiad proffesiynol drwy gaffael gradd Meistr Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae hi hefyd yn Aelod Cymwys o’r Institution of Translation and Interpreting.
Magwyd Anna ym Môn ac mae’n ymfalchïo yn ei Chymreictod. A hithau’n gwerthfawrogi tawelwch a heddwch Môn Mam Cymru, mae hi'n mwynhau ymweld â llefydd newydd, clywed ieithoedd eraill ac mae hi hefyd yn credu’n gryf mewn therapi siopa!!
Yn ogystal ag arwain uned fusnes Bla, mae Anna hefyd yn gyfrifol am Bla2, sef ein Hadran Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghwmni Cyfieithu Bla. Os oes angen cyfieithiad arnoch i unrhyw iaith Ewropeaidd neu Ryngwladol, yna anfonwch e-bost ati: anna@bla-translation.co.uk
Ymunodd Nia â Bla ym mis Tachwedd 2021.
Daw o’r ynys ac mae’n byw yma yn Llangefni.
Wedi iddi raddio o Brifysgol Cymru, Bangor ac yna cwblhau ei chwrs TAR, symudodd Nia i fyw a gweithio yn ne Cymru. Gweithiodd fel athrawes ysgol gynradd ym Mhontypridd a’r Barri cyn dychwelyd i Ynys Môn yn 2002. Parhaodd i ddysgu ar draws yr ynys ac yng Ngwynedd tan yn ddiweddar cyn penderfynu ar newid mewn gyrfa.
Dyrchafwyd Nia i swydd Uwch-gyfieithydd yma yn Bla ym mis Ionawr 2024.
Mae trin geiriau a hyrwyddo’r iaith Gymraeg wedi bod yn bwysig i Elena drwy gydol ei gyrfa. Bu’n Diwtor Iaith i fyfyrwyr prifysgol ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion, yn ogystal â gweithio yn y diwydiannau creadigol am rai blynyddoedd; gweithiodd fel Golygydd mewn sawl tŷ cyhoeddi Cymraeg a bu hefyd yn Olygydd a Chyfieithydd llawrydd. Yn fwy diweddar, bu'n gweithio yn y sector treftadaeth lle bu’n creu cynnwys a thrin testun ar wahanol blatfformau fel aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Graddiodd yn y Gymraeg gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Bangor, gan ddilyn cwrs MA Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yno wedi hynny.
Mae hi bellach wedi ailgartrefu ym Môn ac yn mwynhau crwydro, canu, darllen, a gwrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth fyw o bob math.
Ymunodd Sian â’r cwmni ym mis Ionawr 2022. Graddiodd o Brifysgol Bangor mewn Cymraeg ac Astudiaethau Addysg cyn mynd yn ei blaen i ennill gradd M.Phil a dilyn cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion. Bu Sian yn athrawes a Phennaeth Adran y Gymraeg mewn ysgol uwchradd ym Môn am dros bum mlynedd ar hugain cyn penderfynu rhoi’r gorau iddi a throi ei llaw at gyfieithu. Mae wrth ei bodd yn cael cyfle i wireddu’i dyhead i weithio yn y byd cyfieithu a gweithio mewn swyddfa gartrefol a phrysur fel rhan o dîm Bla. Mae Sian hefyd yn aelod cymwys o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae Sian wedi bod yn byw ar hyd a lled Gogledd Cymru ar hyd y blynyddoedd ond bellach wedi ymgartrefu yn Ynys Môn ers tro. Mae wrth ei bodd yn cael cerdded i’w gwaith o dop Llangefni bob dydd! Pan fydd amser yn caniatáu mae’n mwyhau gwylio bob math o chwaraeon; dilyn cyfresi ar y teledu; mynd allan am fwyd hefo ffrindiau a mynd ar dripiau yn y motorhome. Mae hi’n trio chwarae golf ond gwell peidio dweud dim mwy am hynny!
Croesawyd Mari i'r cwmni ym mis Ebrill 2020. Wedi cyfnod o fod yn athrawes mewn ysgol uwchradd penderfynodd Mari mai cyfieithu oedd ei bryd ac roedd hi'n bleser medru cynnig lle iddi fel rhan o'r tîm. Gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a phrofiad helaeth felly mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg yn sgil ei chyfnod fel athrawes, mae Mari yn ychwanegiad hwyliog i'r criw.
Pan nad yw’n cyfieithu, mae Mari yn mwynhau teithio, cyd-hyfforddi drama i griw o blant yma yn Llangefni a chanu fel aelod o Côr Dre.
Mae ein hadran Diogelwch ac Adnoddau yn gweithio mewn modd unigryw iawn wrth sicrhau llesiant ein staff, o fewn y swyddfa yma yn Llangefni a thrwy gynnig cyngor a chanllaw ar bob agwedd ar gyflogaeth. Penodwyd y tri swyddog yn annisgwyl wrth gwrdd ag Alun yn Perpignan pan oedd ar ei wyliau, a chynhaliwyd cyfweliad dros botel o win, neu ddwy, neu dair.
Jacques sy’n arwain yr adran, ac mae ganddo brofiad helaeth o fewn y sector preifat yn ne ddwyrain Ffrainc lle cafodd ei fagu, a hefyd mewn rhannau o’r Cote d’Azur, yn y maes lletygarwch yn bennaf. Mae’n smociwr ac yn yfwr trwm ac mae’r bobl leol yn nhref Llangefni wedi hen arfer ei weld yn ymlacio ar falconi’r swyddfa yn rhegi mewn sawl iaith ac yn poeri ar y bobl islaw.
Yn focsiwr amatur sydd wedi ymddeol o’r paffio ers blynyddoedd maith, treuliodd Pedro ei fywyd cynnar ar strydoedd tlawd gogledd Barcelona, gan weithio ar y drysau mewn clybiau nos, casinos a thai bwyta. Mae’n gogydd awyddus a thalentog ac mae Pedro yn aml yn plesio’r staff yn annisgwyl gyda detholiad o tapas Catalanaidd, i dorri ar ddiflastod diwrnod arall o gyfieithu. Mae’n gyfle hefyd iddo ddianc o’i swydd ddiogelwch syrffedus.
Mae Pierre yn unigolyn uchel ei barch ymysg y staff, yn gwrtais ond eto braidd yn od. Ef sy’n gyfrifol am ein holl waith personél. Cafodd ei fagu mewn teulu breintiedig a chefnog ger Lyon a’i addysgu yng Ngholeg yr Iesu yn Rhydychen. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ym maes rheoli pobl mewn amryw o fanciau preifat yn Genefa a gweithiodd yn fwy diweddar mewn swydd lywodraethol yn Perpignan. Mae’n glarinetydd penigamp ac yn deithiwr brwd, gan hedfan bron bob haf tua'r de i gynhesrwydd Môr y Canoldir i gwrdd â theulu a ffrindiau ac i fwynhau cyngherddau clasurol al fresco. Nid yw’n cymysgu rhyw lawer yn gymdeithasol â Jacques a Pierre.
Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR
Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818
E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk