Diwrnod wrth ddesg y cyfieithydd - gan Margiad Dobson
Mawrth 2022
“Mae cyfieithu yn allweddol i ddatblygu cynlluniau iaith corfforaethol yn ogystal â grymuso cymunedau.”
Rwy’n credu bod “grymuso” yn air da iawn i’w ddefnyddio wrth sôn am gyfieithu. Nid yn unig rydych yn grymuso’ch gallu ieithyddol a’ch dealltwriaeth o’r agweddau ar y Gymraeg, ond rydych hefyd yn cael eich grymuso fel Cymro neu Gymraes.
Ers dechrau fy swydd gyntaf fel cyfieithydd bron i dair blynedd yn ôl, teimlad fy mod wedi cael ymdrin â’r Gymraeg mewn sawl ffurf wahanol, ac wedi cyfoethogi fy nealltwriaeth o sefyllfa’r iaith yn ein cornel fach ni yn y byd mawr ‘ma, Cymru fach.
Nid mater o drosi testun air am air o un iaith i’r llall yw cyfieithu. Fel pob proses o weithgynhyrchu mae yna reolau i’w dilyn, safonau i’w cynnal a golygyddion i’w plesio!
Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn gyfieithydd profiadol o bell ffordd eto, ond dwi’n teimlo’n ddigon hyderus bellach i roi cynnig ar amrywiaeth o waith. Un o fy hoff elfennau o gyfieithu yw cael rhoi cynnig ar amrywiaeth eang o waith, o bosteri i erthyglau, polisïau ac ambell slogan!
Gan amlaf, byddaf yn dechrau'r broses gyfan drwy ddarllen y darn o’m blaen er mwyn dod i ddeall naws, cyd-destun a chynnwys y darn. Byddaf yn ceisio peidio â chrwydro’n rhy bell oddi wrth y Saesneg, er mwyn osgoi colli ystyr y darn, ond mae rhai darnau’n caniatáu peth ryddid i’r cyfieithydd roi ei stamp ei hun ar y gwaith, hynny ydi, newid ambell gystrawen, torri brawddegau a symleiddio’r iaith.
Y darnau hynny y byddaf yn eu ffafrio gan amlaf, er hynny, byddaf wastad yn mwynhau rhoi cynnig ar ddarn o waith swmpus sy’n cyflwyno cryn her i’r cyfieithydd ac sy’n gofyn am waith ymchwil trylwyr. Rwyf hefyd yn hoff o wahaniaethu rhwng yr iaith ffurfiol ac anffurfiol. Waeth beth yw’r darn o’m blaen, byddaf yn dysgu rhywbeth ohono bob tro, a thrwy ddilyn y broses hon o ddarllen, cyfieithu a golygu, rwy’n sicrhau fy mod yn cynnal cysondeb ac yn cyflwyno gwaith sydd o’r ansawdd orau.
Agwedd arall ar gyfieithu rwy’n ei mwynhau yw’r cyfle i ddefnyddio meddalwedd benodol i gefnogi'r broses gyfan. Cyn dechrau fy swydd bresennol, nid oeddwn wedi cael cyfle i ddefnyddio meddalwedd o'r maes cyfieithu, ac felly roedd dod i arfer â defnyddio meddalwedd o’r fath yn ddyddiol yn gryn her ar y dechrau. Wedi rhai wythnosau o ddod i adnabod y swyddogaethau a’r nodweddion oedd gan MemoQ, sef y feddalwedd a ddefnyddir yma yn Bla, i’w cynnig, roedd y broses gyfieithu'n llifo’n llawer gwell.
Cyn dechrau fy swydd bresennol, nid oeddwn wedi gweithio mewn rôl “swyddfa” o’r blaen, ac roeddwn yn eithaf pryderus am orfod eistedd o flaen cyfrifiadur o ddydd i ddydd yn darllen a chyfieithu bob yn ail. Roeddwn yn bryderus am flino a diflasu ar y ffordd hon o weithio; i’r gwrthwyneb, am fy mod yn ymgolli fy hun yn llwyr yn y gwaith, mae’r oriau’n hedfan heibio, a dydw i ddim wedi profi diflastod na chael eiliad i droi fy modiau ers i mi ddechrau’r swydd hon bron i dair blynedd yn ôl.
Darlun bach iawn o’m profiad o’r maes cyfieithu yw hwn, ac mae sawl elfen ac agwedd arall y gellir eu trafod. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael datblygu fel cyfieithydd, gweld i ba gyfeiriad y bydd yr yrfa hon yn fy arwain a sut y bydd y Gymraeg yn datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.