Cyfieithwyr yn Crasu
Mehefin 2019
Mae hi'n rhy braf i weithio. Hmmmm, swyddfa ar y traeth fasa'r ateb!
Mae hi'n rhy braf i weithio. Hmmmm, swyddfa ar y traeth fasa'r ateb!
Newydd ddychwelyd o Gynhadledd yr Institute of Translation and Interpretation yn Sheffield. Wedi cyfarfod amryw o bobl ddifyr iawn!!
Rydym yn ymestyn ein swyddfeydd ac wedi cymryd swyddfa arall y drws nesa' i'n hystafelloedd presennol. Lluniau newydd ar y wal hefyd - posh de!
Croeso hefyd i Elan Lois Roberts a fydd yn ymuno â'r criw wedi iddi gwblhau ei chwrs M.A. mewn Cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr haf. Cwblhaodd radd yn y Gymraeg yno hefyd. Mae cartref Elan yma yn Llangefni a braf yw croesawu rhywun lleol yma i'r cwmni!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cyfieithydd newydd yn ymuno efo ni erbyn diwedd mis Mawrth. Mae Margiad Dobson yn byw ym Mhant Glas ac wedi bod yn gwneud ychydig o gyfieithu yn ei swydd flaenorol ond wedi bod yn chwilio am swydd bwrpasol yn y byd cyfieithu ers iddi gwblhau ei gradd yn y Gymraeg a'i gradd bellach mewn Newyddiaduraeth. Croeso Margiad!
Mae Bla yn dymuno recriwtio un os nad dau gyfieithydd newydd i ymuno a'r tîm. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am unigolion profiadol a chymwys, felly cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb. E-bostiwch alun@bla-translation.co.uk
Ydi'r diwrnod cyntaf yn ôl yn dipyn o hunllef? Llawer i'w wneud ond dim egni? Anfonwch eich gwaith cyfieithu atom - mae'r criw yma yn barod i dderbyn eich tasgau!!
Bordyn hysbysebu newydd Bla yn stadiwm pêl-droed Llangefni. Da de!
Braf gweld ymdrech arbennig iawn efo'r goleuadau ar hyd y stryd yn Llangefni y tu allan i'n swyddfa. Da iawn Cyngor y Dref Llangefni!
Mae hi'n dechrau troi'n Nadoligaidd iawn yn swyddfa Bla erbyn hyn!
Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR
Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818
E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk