Pontio ieithoedd, cysylltu pobl
Ein cefndir
Rydym ni’n dîm cyfeillgar o Gyfieithwyr profiadol a brwd sydd wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth rhagorol. Mae ein tîm mewnol yn cwblhau cyfieithiadau yn effeithlon ac am brisiau cystadleuol. A ninnau’n gwmni sydd wedi ennill gwobrau, mae ein cyfieithiadau yn glynu wrth dafodieithoedd lleol neu nodweddion ieithyddol. Rydym ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein gwaith, ac mae hynny’n amlwg.
Pam Bla?
Mae ein tîm mewnol a’n dull cydweithredol o weithio yn sicrhau ein bod yn deall cyd-destun unrhyw ddarn o waith a wnawn. Mae hyn yn ein caniatáu ni i gyflawni gwaith cyfieithu manwl gywir sy’n parchu diwylliant bob tro.
Gwasanaeth cyflym
Gellir dychwelyd prosiectau bach mewn cyn lleied â 24 awr
Wedi ennill gwobrau
Mae ein gwasanaeth cwsmer a'n manwl gywirdeb heb eu hail
Blaengar
Gwthio'r ffiniau a buddsoddi yn nyfodol y byd cyfieithu
Dros 10 mlynedd o brofiad
Partner cyfieithu y gallwch chi ymddiried ynddo i gwblhau prosiectau o bob maint
Dyma'r tîm
Alun Gruffydd BA MA Cert
Cyfarwyddwr
Darllenwch y bio
Cafodd Alun ei eni a’i fagu ar Ynys Môn a graddiodd mewn Archaeoleg o Brifysgol Caerlŷr ym 1990. Treuliodd amser yn gweithio fel archaeolegydd maes cyn symud i weithio fel curadur ac yna arwain Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Ynys Môn am flynyddoedd lawer. Yna treuliodd chwe blynedd fel Pennaeth Addysg a Chyfathrebu Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ystod y cyfnod hwn cwblhaodd M.A. mewn Astudiaethau Amgueddfaol o Brifysgol Caerlŷr ac ILM Lefel 7 mewn Rheolaeth o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor.
Cwblhaodd Alun ei gymwysterau cyfieithu Cymraeg yn ystod ei gyfnod yn y maes amgueddfeydd, gan lwyddo i ddod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru a chwblhau Tystysgrif mewn Cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth, er mwyn cefnogi ei waith cyfieithu llawrydd yn ei amser sbâr.
Yn fwy diweddar, ac wedi iddo gamu i mewn i’r proffesiwn cyfieithu yn llawn amser yn 2013 wrth sefydlu cwmni Bla, daeth Alun yn aelod MITI cymwys o’r Institute of Translation and Interpreting, gan arwain datblygiad Bla i fod yn un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaenllaw Cymru, sydd bellach yn gwmni a achredir gan yr ATC a’r ITI. Mae Alun yn cyfrannu’n rheolaidd at gyfnodolion proffesiynol yn y maes ac wedi cyfrannu at gynadleddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â’u hannerch.
Anna Lewis BA MA Cert
Rheolwr Busnes
Darllenwch y bio
Ymunodd Anna â’r tîm fis Mehefin 2018, wedi iddi gyflawni gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Gan weithio’n llawn amser yn Bla, aeth Anna ati i barhau â’i datblygiad proffesiynol drwy gaffael gradd Meistr Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, gan ymchwilio’n benodol i gyfieithu a dwyieithrwydd ym myd busnes Cymru. Mae hi hefyd yn Aelod Cymwys o’r Institute of Translation and Interpreting ers 2021. Yn 2023, cwblhaodd dystysgrif Arwain Twf gyda’r Institute of Leadership ym Mhrifysgol Bangor. A hithau wedi treulio pum mlynedd yn Gyfieithydd ac yna’n Uwch-gyfieithydd yn Bla, bellach Anna yw Rheolwr Busnes y cwmni ac mae hi wrth ei bodd yn gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth.
Magwyd Anna ym Môn ac mae’n ymfalchïo yn ei Chymreictod. A hithau’n gwerthfawrogi tawelwch a heddwch Môn Mam Cymru, mae hi hefyd yn mwynhau ymweld â llefydd newydd, clywed ieithoedd eraill ac yn credu’n gryf ym muddion therapi siopa!
Ceri Hughes Cert
Rheolwr Cyfieithu (Systemau)
Darllenwch y bio
Ymunodd Ceri â’n tîm fis Mai 2018 gan gynnig ei phrofiad helaeth o reoli prosiectau wedi iddi weithio fel Rheolwr Swyddfa/Rheolwr Prosiectau yn Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (ar y pryd) ers 2001. Ceri bellach yw ein Rheolwr Cyfieithu (Systemau) ac mae’n gweithio’n agos â Nerys (Rheolwr Cyfieithu – Ansawdd) ac Anna (Rheolwr Busnes). Ceri yw ein prif gyswllt ar gyfer cleientiaid, ac mae’n cynnig dyfynbrisiau, trefnu dyddiadau dychwelyd gwaith a dyrannu gwaith cyfieithu ymhlith y tîm. Mae ei swydd hefyd yn ymwneud ag adolygu prosesau, ein meddalwedd a gwella’r gweithrediadau yma yn Bla er mwyn cynnig proses rwydd a di-drafferth i’r tîm a chleientiaid. Mae gan Ceri dystysgrifau mewn Adobe Acrobat Professional, Adobe Indesign a dyfarniad Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth Strategol a dyfarniad Lefel 7 mewn Rheoli Prosiectau gyda’r ILM.
Nerys Buckland Hughes BA Dip Cert
Rheolwr Cyfieithu (Ansawdd)
Darllenwch y bio
Dechreuodd Nerys ei gyrfa fel cyfieithydd yn 2005, mewn dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn. Aeth ymlaen i weithio fel cyfieithydd i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd, ac yna fel uwch-gyfieithydd yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Ymunodd â chwmni Bla ym mis Mai 2017 ac, erbyn hyn, hi yw Rheolwr Cyfieithu (Ansawdd) y cwmni. Nerys sy’n gyfrifol am sicrhau’r safonau ansawdd gorau posib yn ein gwaith, drwy ofalu bod prosesau gwirio cadarn ar waith, sicrhau bod staff yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau cyfieithu yn barhaus (gan gynnwys sgiliau technoleg iaith), cysylltu â chleientiaid i drafod eu gofynion o ran terminoleg ac arddull, datblygu ein cronfa derminoleg fewnol er mwyn sicrhau cysondeb, a datblygu canllawiau cyfieithu clir ar gyfer y cwmni.
O ran cymwysterau, mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o Brifysgol Bangor, cymhwyster ôl-radd mewn cyfieithu (Tystysgrif Prifysgol Cymru mewn Cyfieithu) a Dyfarniad ILM Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth Strategol. Mae hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ffion Kellett AAT
Swyddog Cyllid
Darllenwch y bio
Ymunodd Ffion yn ystod tymor yr hydref 2021 a hi yw ein Swyddog Cyllid. Mae’n dod â phrofiad helaeth o waith gweinyddol o’r sectorau addysg a chyhoeddus. A hithau bellach wedi cyflawni cymhwyster Cyfrifeg, mae Ffion yn gwneud cyfraniad allweddol at y gwaith dyddiol o reoli anfonebau a thaliadau yn y cwmni.
Hi sydd hefyd yn ymwneud â’n cyfrifwyr a’n cleientiaid, gan sicrhau cyfathrebu rhwydd a datrys unrhyw ymholiadau ariannol yn brydlon ac effeithiol. Mae ymroddiad ac arbenigedd Ffion yn cyfrannu’n sylweddol at ein heffeithlonrwydd ni fel busnes yn ogystal â bodlonrwydd ein cleientiaid.
Nia Morus Lovelock BA
Uwch-gyfieithydd
Darllenwch y bio
Daw Nia o Ynys Môn yn wreiddiol a bellach mae’n byw yma yn Llangefni. Wedi iddi raddio o Brifysgol Cymru, Bangor ac yna cwblhau ei chwrs TAR, symudodd Nia i fyw a gweithio yn ne Cymru. Gweithiodd fel athrawes ysgol gynradd ym Mhontypridd a’r Barri cyn dychwelyd i Ynys Môn yn 2002. Parhaodd i addysgu ar draws yr ynys ac yng Ngwynedd cyn penderfynu ar newid mewn gyrfa.
Dyrchafwyd Nia i swydd Uwch-gyfieithydd yma yn Bla ym mis Ionawr 2024 wedi iddi lwyddo i ennill aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Sian Hydref BA MPhil
Uwch-gyfieithydd
Darllenwch y bio
Ymunodd Sian â’r cwmni ym mis Ionawr 2022.
Graddiodd o Brifysgol Bangor mewn Cymraeg ac Astudiaethau Addysg cyn myn yn ei blaen i ennill gradd M.Phil a dilyn cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion.
Bu Sian yn athrawes a Phennaeth Adran y Gymraeg mewn ysgol uwchradd ym Môn am dros bum mlynedd ar hugain cyn penderfynu rhoi’r gorau iddi a throi ei llaw at gyfieithu. Mae wrth ei bodd yn cael cyfle i wireddu ei dyhead o weithio yn y byd cyfieithu a hynny mewn swyddfa gartrefol a phrysur fel rhan o dîm Bla. Mae Sian hefyd yn aelod cymwys o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
A hithau wedi bod yn byw ar hyd a lled Gogledd Cymru ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi ymgartrefu yn Ynys Môn ers tro. Mae wrth ei bodd yn cael cerdded i’w gwaith o dop Llangefni bob dydd!
Pan fydd amser yn caniatáu mae’n mwynhau gwylio bob math o chwaraeon; dilyn cyfresi ar y teledu; mynd allan am fwyd efo ffrindiau a mynd ar dripiau yn y motorhome. Mae hi’n trio chwarae golff ond gwell fyddai peidio â dweud dim mwy am hynny!
Elena Morus BA MA
Uwch-gyfieithydd
Darllenwch y bio
Mae trin geiriau a hyrwyddo’r iaith Gymraeg wedi bod yn bwysig i Elena drwy gydol ei gyrfa. Bu’n Diwtor Iaith i fyfyrwyr prifysgol ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion, yn ogystal â gweithio yn y diwydiannau creadigol am rai blynyddoedd; gweithiodd fel Golygydd mewn sawl tŷ cyhoeddi Cymraeg a bu hefyd yn Olygydd a Chyfieithydd llawrydd. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio yn y sector treftadaeth lle bu’n creu cynnwys a thrin testun yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Graddiodd yn y Gymraeg gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Bangor, gan ddilyn cwrs MA Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yno wedi hynny. Mae hi bellach wedi ailgartrefu ym Môn ac yn mwynhau crwydro, canu, darllen, a gwrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth fyw o bob math.
Mari Elen Griffiths BA
Cyfieithydd
Darllenwch y bio
Croesawyd Mari i’r cwmni ym mis Ebrill 2020, ar ôl ennill Gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg a Thystysgrif Addysg i Raddedigion o Brifysgol Bangor. Wedi cyfnod o fod yn athrawes Gymraeg mewn ysgol uwchradd leol, penderfynodd Mari mai cyfieithu oedd yn mynd â’i bryd, ac mae hi wrth ei bodd yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar y swyddfa yma yn Llangefni. Yn 2023, cyflawnodd Mari gymhwyster Tystysgrif Uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle bu’n mwynhau mynd i’r afael ag amrywiaeth o fodiwlau fel Cyfieithu ar Waith, Datblygu Sgiliau Cyfieithu a Chyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd. Pan nad yw’n cyfieithu, mae Mari yn mwynhau teithio, darllen a chanu fel aelod o Côr Dre.
Bethan Rowlands BA
Cyfieithydd
Darllenwch y bio
Ymunodd Bethan â Bla ym mis Medi 2024. Yn wreiddiol o Borthmadog, cafodd ei haddysg yn y dref, cyn mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor, lle graddiodd yn y Gymraeg. Yna cwblhaodd y cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion. Bu’n athrawes yn Ysgol Penygroes, Ysgol Llanddona ac Ysgol y Graig, Llangefni am flynyddoedd lawer. Yn ddiweddar penderfynodd Bethan ei bod yn amser newid gyrfa, a gadawodd y byd addysg, a dod atom i Bla i gyfieithu. Mae wrth ei bodd yn cerdded, siopa, crwydro a chymdeithasu!
Sioned Griffith BA
Cyfieithydd
Darllenwch y bio
Ymunodd Sioned â’r tîm fel Cyfieithydd rhan amser ym mis Tachwedd 2024, ar ôl gweithio fel Cyfieithydd Llawrydd. Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2020 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ieithyddiaeth, cyn mynd ymlaen i weithio fel Cyfieithydd i Gyngor Sir Ynys Môn. Mae hi hefyd yn aelod safonol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg a chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg). Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Pan nad yw’n cyfieithu, mae’n mwynhau bod yn greadigol, gyda diddordeb penodol mewn peintio olew.
Elin Thomas BSc
Cyfieithydd dan Hyfforddiant
Darllenwch y bio
Yn dilyn ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bioleg o Brifysgol Bangor, gweithiodd Elin yn y sector cadwraeth am gyfnod. Ymunodd Elin â’r tîm ym mis Hydref 2024, wedi iddi benderfynu dilyn gyrfa yn y maes cyfieithu, sy’n ei galluogi i roi ei gwerthfawrogiad tuag at yr iaith Gymraeg ar waith! Mae hi’n edrych ymlaen yn arw tuag at ddatblygu a chryfhau ei sgiliau cyfieithu wrth weithio.
Magwyd Elin ar fferm deuluol yn Ynys Môn, lle mae hi’n mwynhau helpu yn ystod ei hamser sbâr. Wedi ei hamgylchynu â chyfoeth o fyd natur a bywyd gwyllt yma ym Môn, treuliai weddill ei hamser rhydd yn edmygu a gwerthfawrogi bro ei mebyd.
Elliw Roberts BA
Swyddog Busnes
Darllenwch y bio
Ymunodd Elliw â’r tîm ym mis Hydref 2024. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes a Llenyddiaeth Saesneg, cyn mynd ymlaen i gwblhau cwrs TAR Cynradd. Wedi iddi addysgu am ychydig o flynyddoedd, penderfynodd Elliw ei bod hi’n amser newid cyfeiriad yn ei gyrfa, ac erbyn hyn mae’n gweithio fel Swyddog Busnes yma yn Bla.
Yn ystod ei hamser hamdden, mae Elliw wrth ei bodd yn ymweld â gwahanol lefydd, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, mynd i ddosbarthiadau ffitrwydd, a gwylio ei hoff gyfresi teledu.
Swyddi gwag
Cyfleoedd am waith llawrydd
Pe hoffech gofrestru’n rhan o’n cronfa o gyfieithwyr llawrydd cymwys, yna anfonwch neges atom yn mynegi eich diddordeb: office@bla-translation.co.uk
Ffeithiau a ffigyrau
2013
Blwyddyn sefydlu
95%
Cyfradd cadw cleientiaid
100%
Gallu i weithio o bell
85%
Cynnydd yn y nifer staff
Gair gan ein cleientiaid:
“Mae Bla yn rhagorol. Mae ansawdd a pha mor gyflym mae gwaith yn cael ei ddychwelyd yn arbennig ac yn siwtio ein prosiectau ni sydd weithiau yn gofyn am waith brys. Maen nhw wastad eisiau adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi ac maent yn dod i ddeall nodau’r prosiect cyn iddynt ddechrau arni. Byddem wastad yn argymell Bla ar gyfer eich holl waith cyfieithu ac rydym yn ddiolchgar am y berthynas yr ydym wedi’i magu gyda nhw dros y blynyddoedd.”
Rh E, Waters Creative
“Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bla ers sawl blwyddyn. Byddwn yn troi at Bla i gyfieithu popeth, o bolisïau swyddogol i gynnwys unigryw, a gwyddom y bydd Alun a’r tîm yn ymdrin â phob tasg yn ofalus, gan ddefnyddio iaith briodol. Mae Bla yn wynebu pob her newydd a gyflwynir iddynt, o recordio sain, i brawfddarllen dyluniad, a hynny oll gydag agwedd hwyliog – mae’n bleser gweithio gyda nhw.”
M P, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
“Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Bla ers nifer o flynyddoedd. Mae ansawdd y gwaith cyfieithu yn rhagorol, ac maent wedi deall i’r dim llais ein brand a’n harddull fel cwmni sy’n sicrhau cysondeb a manwl gywirdeb. Mae’n brofiad gwych gweithio gyda’r tîm yn Bla. Maent yn bodloni dyddiadau dychwelyd gwaith ac yn cyfathrebu’n brydlon a chyfeillgar.”
S E, Opera Cenedlaethol Cymru