Gwasanaeth cyfieithu proffesiynol, prydlon a phriodol
Ein gwaith
Mae yna dîm hynod frwd yma yn Bla sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau cyfieithu Cymraeg, a’r cwbl wedi’u teilwra i fodloni anghenion cleientiaid amrywiol ar draws sectorau gwahanol. Gyda thîm o gyfieithwyr profiadol, rydym ni’n benderfynol o’ch cynorthwyo gyda chyfieithiadau o ansawdd, sy’n gywir, yn brydlon a hynny am bris cystadleuol. Dyma pam ein bod wedi ennill gwobrau.
Posteri a baneri
Adroddiadau a maniffestos helaeth
Gwaith prawfddarllen a golygu
Brawddegau bachog
Deunydd academaidd
Cyflwyniadau cynyrchiadau opera
Strategaethau cynllunio awdurdodau lleol
Deunydd cyfryngau cymdeithasol
Cryfhau partneriaethau cleientiaid ac ymestyn gorwelion
Magu perthnasoedd cryfion
Mae ein tîm wedi ymroi i sicrhau bod pob prosiect, waeth beth fo’i faint na pha mor gymhleth ydyw, yn cael yr un lefel o sylw a phroffesiynoldeb.
Mae ein hagwedd hyblyg yn sicrhau yr ymdrinnir â phob cais yn brydlon.
Rydym ni’n cynnig system gredydau hwylus ar gyfer cleientiaid sydd ag anghenion cyfieithu tymor byr, gan atal yr angen i anfonebu am symiau bach o arian.
Drwy ein hymrwymiad i fodloni dyddiadau dychwelyd gwaith, gallwn ymdrin â cheisiadau brys yn effeithlon, gan gwblhau cyfieithiadau ar yr un diwrnod os bydd angen.
Yn y pendraw, gŵyr ein cleientiaid ein bod yn cymryd gofal er mwyn cyfieithu’r ystyr a deall safbwynt a bwriad yr awdur, waeth pa mor gymhleth fo’r gwaith.
Os hoffech chi drafod ein gwasanaethau, yna siaradwch â’n Huned Fusnes:
business@bla-translation.co.uk
01248 725755
Rydym yn gweithio gyda chleientiaid ym mhob diwydiant
Y sector cyhoeddus
Y sector preifat
Sefydliadau academaidd
Sefydliadau'r trydydd sector

Gair gan ein cleientiaid:
“Mae Bla yn rhagorol. Mae ansawdd a pha mor gyflym mae gwaith yn cael ei ddychwelyd yn arbennig ac yn siwtio ein prosiectau ni sydd weithiau yn gofyn am waith brys. Maen nhw wastad eisiau adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi ac maent yn dod i ddeall nodau’r prosiect cyn iddynt ddechrau arni. Byddem wastad yn argymell Bla ar gyfer eich holl waith cyfieithu ac rydym yn ddiolchgar am y berthynas yr ydym wedi’i magu gyda nhw dros y blynyddoedd.”
Rh E, Waters Creative
“Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bla ers sawl blwyddyn. Byddwn yn troi at Bla i gyfieithu popeth, o bolisïau swyddogol i gynnwys unigryw, a gwyddom y bydd Alun a’r tîm yn ymdrin â phob tasg yn ofalus, gan ddefnyddio iaith briodol. Mae Bla yn wynebu pob her newydd a gyflwynir iddynt, o recordio sain, i brawfddarllen dyluniad, a hynny oll gydag agwedd hwyliog – mae’n bleser gweithio gyda nhw.”
M P, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
“Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Bla ers nifer o flynyddoedd. Mae ansawdd y gwaith cyfieithu yn rhagorol, ac maent wedi deall i’r dim llais ein brand a’n harddull fel cwmni sy’n sicrhau cysondeb a manwl gywirdeb. Mae’n brofiad gwych gweithio gyda’r tîm yn Bla. Maent yn bodloni dyddiadau dychwelyd gwaith ac yn cyfathrebu’n brydlon a chyfeillgar.”
S E, Opera Cenedlaethol Cymru