Nid yw cyfieithu uniongyrchol yn gweithio bob amser. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn amlygu rhai gwahaniaethau ieithyddol diddorol o ran strwythur brawddegau, idiomau a gramadeg. Mae deall y newidiadau yma yn hanfodol er mwyn cyfieithu a chyfathrebu yn gywir. Dewch i edrych ar rai o’r prif wahaniaethau…
Treiglo: Newid y Llythrennau Cyntaf
Mae gan y Gymraeg dri threiglad: treiglad meddal, treiglad trwynol, a threiglad llaes. Yn syml, mae hyn yn golygu bod llythyren gyntaf gair yn newid yn dibynnu ar y cyd-destun gramadegol yn y Gymraeg. Maent yn gallu effeithio ar yr ynganiad a sillafu, ond nid ar ystyr y gair ei hun.
Cymru > “Croeso i Gymru”
Pont > “Yr hen bont”
Mae treigladau yn hollbwysig ar gyfer gramadeg ac ystyr cywir wrth ysgrifennu neu siarad Cymraeg. Gallant hefyd helpu i ddangos y berthynas ramadegol rhwng geiriau. Gall dysgu pryd a ble i ddefnyddio treigladau gymryd ymarfer, ond maent yn hynod o bwysig wrth feistroli’r iaith.
Trefn Geiriau
Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn wahanol o ran eu trefn geiriau arferol. Un o’r gwahaniaethau mwyaf amlwg yw bod Saesneg fel arfer yn dilyn strwythur ‘Goddrych-Berf-Gwrthrych’ (SVO), tra bod y Gymraeg yn defnyddio strwythurau ‘Berf-Goddrych-Gwrthrych’ (VSO) yn aml mewn rhai mathau o frawddegau.
Dyma enghraifft:
Saesneg: “The child (Goddrych) played (Berf) with blocks (Gwrthrych)”
Cymraeg: “Chwaraeodd (Berf) y plentyn (Goddrych) gyda blociau (Gwrthrych)”
Gall trefn geiriau’r Gymraeg amrywio yn dibynnu ar y math o frawddeg a’r pwyslais sy’n cael ei roi ar wahanol rannau ohoni. Mae hyn yn golygu y gall cyfieithu strwythur brawddeg yn uniongyrchol o’r Saesneg i’r Gymraeg arwain weithiau at frawddeg sy’n swnio’n annaturiol neu’n anghywir.
Y prif wahaniaeth yn yr enghraifft hon yw lleoliad y ferf ar ddechrau’r frawddeg yn y Gymraeg, tra bod y Saesneg yn dilyn y patrwm ‘SVO’ cyfarwydd. Gall trefn geiriau’r Gymraeg fod yn fwy hyblyg mewn rhai cyd-destunau, a gall gwahanol strwythurau newid trefn y geiriau o fewn brawddeg.
Dim Cyfwerth Uniongyrchol i Atebion ‘Yes’ a ‘No’
Yn Saesneg, gallwn ateb y rhan fwyaf o gwestiynau gyda ‘yes’ neu ‘no’ syml. Yn y Gymraeg, ar y llaw arall, gall yr ateb priodol ddibynnu ar y ferf a ddefnyddir yn y cwestiwn.
Saesneg: “Are you going on holiday?” >Yes / No
Cymraeg: “Wyt ti’n mynd ar dy wyliau?” > Ydw / Nac ydw
Er bod ‘ie/ia’ a ‘na’ yn bodoli, nid ydynt fel arfer yn cael eu defnyddio i ateb cwestiynau yn yr un ffordd ag y defnyddir ‘yes’ a ‘no’ yn Saesneg. Oherwydd bod y Gymraeg yn dilyn y system hon, mae’r ateb yn cadarnhau neu’n gwadu’r ferf neu weithred y cyfeirir ati yn y cwestiwn.
Casgliad
Yn wir, mae’r Gymraeg yn iaith brydferth ac unigryw! Mae llawer o wahaniaethau a phatrymau tebyg wrth gymharu gramadeg y Gymraeg a’r Saesneg, a dyma rai ohonynt. Gall deall y gwahaniaethau ieithyddol hyn helpu, p’un a ydych yn dysgu’r Gymraeg neu, yn syml, os oes gennych ddiddordeb yn yr iaith.
Mae’r gwahaniaethau uchod hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn gwasanaethau cyfieithu proffesiynol o safon, lle gall cyfieithwyr ystyried y gwahaniaethau ieithyddol hyn a’u hymgorffori’n naturiol yn eu cyfieithiadau.
Cysylltwch â’n tîm os oes angen help arnoch gyda’ch cyfieithiad Cymraeg:










