Yma yn Bla, rydym ni’n gwmni sy’n rhoi pwyslais mawr ar hyfforddiant ymhlith ein tîm o staff ac rydym ni wedi cefnogi nifer o ieithyddion ifanc i ddechrau a datblygu gyrfa yn y byd cyfieithu Cymraeg. Teimlwn fod cefnogi’r genhedlaeth nesaf o Gyfieithwyr Cymraeg yn hollbwysig, nid yn unig er mwyn sicrhau ein dyfodol ni fel cwmni, ond hefyd er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant a safonau iaith yn gyffredinol.
Rydym wedi gweld budd mawr o hyfforddi ein staff oddi mewn i’r cwmni – maen nhw’n cael cyfle i gynefino â’n ffyrdd o weithio, arddulliau tŷ ein cleientiaid a’r safonau uchel yr ydym ni’n gweithio atynt er mwyn bodloni gofynion ein cleientiaid. Mae ein Rheolwr Cyfieithu (Ansawdd), Nerys, yn gyfrifol am hyfforddiant a sicrhau cynnydd staff yma yn Bla ac yn gwneud gwaith gwych i’r perwyl hwnnw gan dynnu ar ei gwybodaeth a’i phrofiad anhygoel i atgyfnerthu ac adeiladu ar ddoniau ieithyddol naturiol ein tîm.
Mae Elin, ein Cyfieithydd dan Hyfforddiant, yn un enghraifft o’r Cyfieithwyr lu sydd wedi cael y fraint o dderbyn mentoriaeth gan Nerys. Ymhen ychydig wythnosau, bydd Elin hefyd yn dechrau cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hynny yn ychwanegol i’r rhaglen hyfforddiant mae hi’n ei dilyn yma yn y swyddfa. Bydd hi’n rhannu ei hamser rhwng ennill profiad ymarferol yma yn Bla ac astudiaeth academaidd ochr yn ochr â phobl broffesiynol eraill y maes cyfieithu Cymraeg – dyma gyfle euraid iddi aeddfedu’r sgiliau y mae hi eisoes yn meddu arnynt!
Dyma beth sydd gan Elin i’w ddweud am y cyfle i ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd:
“Bydd y cwrs hwn yn gyfle i gyfoethogi fy ngwybodaeth a fy nealltwriaeth am y byd cyfieithu. Edrychaf ymlaen at gydio yn y cyfle i ddysgu a datblygu fel Cyfieithydd. Erbyn diwedd y cwrs, hoffwn fod yn hyderus wrth gyfieithu terminoleg arbenigol sy’n benodol i sectorau penodol. Rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth a enillaf a’r adborth a gaf yn fy ngalluogi i fynd o nerth i nerth ac i fod mewn sefyllfa dda i ddelio ag unrhyw rwystr cyfieithu sy’n codi yn fy ngwaith.”
Hoffem ddymuno’r gorau i Elin wrth iddi ddechrau ar ei chwrs newydd. Os bydd hi yr un mor weithgar ag ydy hi yn y swyddfa, yna does dim dwywaith mai llwyddiant ysgubol fydd ei hanes hi!










