Fel cwmni cyfieithu gyda thros 11 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, rydym ni yma yn Bla wedi caffael dealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd moeseg yn y byd cyfieithu. Mae Cyfieithwyr yn gwneud cyfraniad allweddol wrth gyfleu gwybodaeth, ac mae parchu egwyddorion cyfieithu yn hollbwysig er mwyn cynnig gwasanaeth cyfieithu o’r radd flaenaf. Dyma flas i chi ar y moesau hyn isod:
- Aros yn driw i’r testun gwreiddiol –
Mae’r testun gwreiddiol wedi’i ysgrifennu yn llais yr awdur ei hun. Rhaid i Gyfieithwyr sicrhau eu bod yn glynu wrth y testun gwreiddiol drwy gyfleu’r neges yn llawn, defnyddio’r cywair iaith cywir a chyfleu pwrpas y testun yn briodol yn yr iaith darged. Mae yna rai achosion lle nad oes angen glynu mor llym ag arfer wrth yr iaith darged, ond rhaid parchu sensitifrwydd diwylliannol bob amser mewn achosion o’r fath. - Creu cyfieithiad gramadegol gywir –
Mae gramadeg cywir yn hollbwysig wrth gyfieithu. Hebddi, does dim amheuaeth y bydd ystyr y testun gwreiddiol yn cael ei ddrysu rhwng y ddwy iaith. Mae eich deunyddiau ysgrifenedig yn gynrychiolaeth uniongyrchol ohonoch chi/eich sefydliad/eich brand. Mae’n hynod bwysig dewis eich Cyfieithydd yn ofalus er mwyn sicrhau y cewch gyfieithiad hollol lân, gan eich helpu chi i gynrychioli’ch hun yn y ffordd orau bosib yn yr iaith darged. - Rhoi teimladau/safbwyntiau personol o’r neilltu –
Fel Cyfieithwyr, mae’n naturiol ein bod ni’n gweithio ar dasgau hynod amrywiol. Drwy ein gwaith, cawn ein hamlygu i ystod o wahanol bynciau a/neu safbwyntiau – ac efallai y byddwn ni’n anghytuno â rhai ohonynt. Rydym ni’n bobl broffesiynol, felly rydym ni wastad yn rhoi ein teimladau personol o’r neilltu wrth gyfieithu a chael ein harwain gan y testun gwreiddiol yn unig. - Pwysigrwydd preifatrwydd –
Preifatrwydd yw un o’r pethau pwysicaf wrth gyfieithu. Yn wir, mae cyn bwysiced â chywirdeb gramadegol. Yn ein gwaith ni yn Bla, rydym ni’n ymdrin â dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth hynod sensitif yn ddyddiol. Wrth ddewis Cyfieithydd, mae angen i chi fod yn sicr y bydd gwybodaeth gyfrinachol o’r fath yn ddiogel yn eu dwylo. - Arferion busnes teg –
Dylai bod Cyfieithwyr yn onest ynglŷn â’u strwythur prisio bob amser. Yn y maes hwn, mae’r pris fel arfer yn seiliedig ar nifer y geiriau i’w cyfieithu. Dylai bod yna gyfathrebu clir ynghylch costau cyn ymgymryd â’r dasg gyfieithu fel nad oes yna unrhyw gostau cudd i’r cleient. Yma yn Bla, rydym ni’n cynnig dyfynbrisiau am ddim a heb unrhyw rwymedigaeth.
Os ydych chi’n chwilio am gwmni proffesiynol, dibynadwy a gonest, sydd â thros 10 mlynedd o brofiad o gynnig gwasanaethau cyfieithu manwl gywir i sylfaen gleientiaid eang, yna cysylltwch â’n Huned Fusnes a fydd yn fwy na bodlon i’ch cynorthwyo: business@bla-translation.co.uk









