Ddiwedd mis Chwefror, mentrodd Alun i Riga yn Latvia er mwyn mynychu cynhadledd Together 2024 ELIA. Daeth nifer o bobl o’r un anian o ddiwydiant cyfieithu Ewrop ynghyd yn y digwyddiad hwn i gwrdd â’i gilydd a thrafod amrywiol agweddau ar gyfieithu, fel deallusrwydd artiffisial, technolegau cyfieithu a rheoli prosiectau. Digwyddiad buddiol tu hwnt a hynny mewn lleoliad anhygoel – edrych ymlaen at y nesaf!









