Mae ein blog diweddaraf yn taflu goleuni ar ymarfer cyfieithu. Gellid dadlau yr ystyrir cyfieithu fel rhywbeth syml lle caiff geiriau eu cyfieithu o’r naill iaith i iaith arall. Gwir – i raddau. Yn y blog hwn, dyma drafod ychydig ar ein gwaith, ei bwysigrwydd a sut mae llawer mwy iddi! Gadewch i ni ddangos enghraifft i chi o gais cyfieithu a gawsom yn ddiweddar:
Please can you translate the following?
Walk
Ar yr olwg gyntaf, efallai fod hon yn eich taro fel tasg digon syml. Efallai y byddai eich cydweithiwr Saesneg yn troi atoch ac yn gofyn i chi “what’s ‘walk’ in Welsh?”, a byddai’n naturiol i chi ateb yn dweud “cerdded”. Dim ond un gair ydi o. Beth all fynd o’i le?
Byddai Cyfieithydd cymwys yn edrych ar y cais hwn ac yn ei weld yn berygl bywyd. Mae yna gymaint o bethau ieithyddol a all fynd o chwith yma. Gadewch i ni edrych ar rai o’r cwestiynau fyddai’n corddi yn ein meddyliau:
Ai geiryn sy’n gweithredu fel enw Saesneg yw hwn? “I’m going for a walk”
Ai gorchymyn ydyw? “Get up and walk”
Ai enw llwybr cerdded ydyw? “Let’s follow Torrens Walk path”
A oes yna gyd-destun ehangach i’r geiryn hwn? “Join us on this walk tomorrow!”
Mae’r cwestiynau hyn i gyd yn arwain at gyfieithiad cwbl wahanol. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, cawsom gyd-destun gan y cleient a oedd yn egluro’r ystyr yn well i ni fel bod modd cynnig y cyfieithiad mwyaf priodol ac addas.
Wedi dweud hynny, y neges yma yw pwysigrwydd troi at Gyfieithydd proffesiynol! Yn yr un modd ag y byddech chi’n meddwl dwywaith cyn tynnu’ch dant gartref, peidiwch â mynd ati i gyfieithu heb gael cyngor gan arbenigwr iaith ac, yn bwysicach fyth, dywedwch wrth eich cydweithwyr am beidio â dibynnu arnoch chi i gyfieithu dim ond oherwydd eich bod chi’n siaradwr Cymraeg! Mae gofyn i siaradwyr Cymraeg, nad ydynt yn Gyfieithwyr, yn gwneud lle ar gyfer camgymeriadau a all ddenu sylw drwg at eich brand.
Cofiwch: mae cyfieithiad gwael yn gwneud mwy o ddrwg na dim cyfieithiad o gwbl!









