Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydy gweithredu’n ddwyieithog yma yng Nghymru – er mwyn helpu busnesau i gyrraedd cynulleidfa ehangach, helpu sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, rhoi cyfle i Gymry fanteisio ar eu hawl i ddefnyddio eu hiaith gyntaf o ddydd i ddydd.
Yng Nghymru, nid oes gofyn cyfreithiol ar sefydliadau nad ydynt yn y sector cyhoeddus i weithredu’n ddwyieithog, felly mae’n bosibl bod sefydliadau o’r fath yn ystyried gwasanaeth cyfieithu fel cost ychwanegol. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y byddant yn dewis opsiynau amgen rhatach, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithwyr go iawn. Hoffem ddangos i chi pam mae buddsoddi mewn gwasanaeth cyfieithu gan fodau dynol yn werth pob ceiniog.
1. Arbenigedd Cyfieithwyr Go Iawn
Mae’r Gymraeg yn iaith gyfoethog ag iddi ei phersonoliaeth ei hun, yn ogystal â rheolau gramadegol unigryw, y treigladau, idiomau ac amrywiadau rhanbarthol hyfryd. Mae cyfieithydd go iawn, sydd wedi treulio blynyddoedd yn perffeithio eu crefft ac yn astudio’r iaith, yn cynnig arbenigedd amhrisiadwy i’r broses gyfieithu. Mae’r arbenigwyr hyn wedi buddsoddi’n sylweddol yn eu hyfforddiant er mwyn dilysu eu gallu i gyfieithu’n fanwl gywir. Gan fod ieithoedd yn bethau ‘byw’, bydd cyfieithydd da yn gwneud eu gorau glas i fod ar flaen datblygiadau newydd er mwyn sicrhau eu bod ar eu gorau bob amser.
1. Cyfleu Cyfoeth y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn iaith alawol ag iddi fynegiannau barddol, trosiadau cyfoethog ac idiomau unigryw – dyma ble mae cyfieithwyr go iawn yn dangos eu gwerth. Maent yn deall arwyddocâd emosiynol a chyd-destunol testunau, a gallant gyfleu hyn yn yr iaith darged.
Os ydych eisiau cyfieithiad Cymraeg sy’n darllen fel darn Cymraeg gwreiddiol, yna bydd angen cyfieithydd go iawn arnoch.
1. Ymwybyddiaeth o Gyd-destun
Mae gan gyfieithwyr go iawn y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus am gyd-destun, naws, ac arwyddocâd diwylliannol, gan ddefnyddio eu barn broffesiynol bob amser i addasu eu harddull ysgrifennu yn ôl y gofyn. Mae hyn yn sicrhau nad dim ond cyfleu ystyr sylfaenol mae cyfieithiad, ond ei fod yn cyd-fynd â chynildeb a chymhlethdodau’r Gymraeg.
Beth bynnag sydd ei angen arnoch – boed yn gyfieithiad o ddatganiad i’r wasg, ymgyrch marchnata, neu ddarn o lenyddiaeth, yna mae gan gyfieithydd go iawn y natur sensitif i gyfleu emosiynau a naws y testun gwreiddiol. Mae hyn yn gymorth i osgoi cyfieithiadau robotaidd, difywyd sy’n aml yn methu ag ennyn diddordeb darllenwyr yn emosiynol.
1. Rheoli Ansawdd a Chywirdeb
Gall cyfieithydd go iawn sylwi ar beryglon gramadegol posibl a gwneud cywiriadau wrth fynd, gan sicrhau bod y cyfieithiad yn gywir ac o safon uchel hefyd.
Yn fwy na hynny, gall cyfieithwyr go iawn gael cyfarfodydd gyda’u cleientiaid er mwyn trafod eu gofynion a’u nodau ac, yn bwysicach na dim, er mwyn cyfleu llais y sefydliad. Gall cyfieithydd proffesiynol sicrhau bod y cynnyrch terfynol wedi’i deilwra i ofynion a disgwyliadau’r cleient, a hynny heb gyfaddawdu ar gywirdeb.
Er ei bod hi’n hawdd cael eich denu i ddewis opsiynau rhatach, ni ellir gor-bwysleisio gwerth cyfieithwyr go iawn. Rydych yn cael mwy na geiriau am eich arian; rydych hefyd yn cael arbenigedd, dealltwriaeth ddiwylliannol, a gwybodaeth drylwyr am arwyddocâd emosiynol yr iaith.
Gadewch i ni ddangos i chi pam y dylech fuddsoddi yn eich darparwr cyfieithu.










