Y diweddaraf gennym ni

Ar Restr Fer Gwobrau Busnes y Daily Post unwaith eto!
Hydref 2018

Rydym wrth ein bodd ar ôl clywed ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith eto yng Ngwobrau Busnes y Daily Post 2018! Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i ni gyrraedd y tri olaf ac edrychwn ymlaen at y Noson Wobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar 29 Tachwedd, gan gystadlu yn y categori "Busnes Gorau hyd at 10 o Weithwyr!"



Cyfieithwyr Clyfar!
Medi 2018

Mae dwy aelod o’r staff yma ar fin cwblhau eu graddau ôl-raddedig gyda Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor. Bydd Meleri yn cwblhau ei M.A. mewn Cyfieithu ac Elin yn cwblhau ei M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol.

Wrth i’r ddwy orffen eu cyrsiau, bydd un arall o’n staff, Anna, yn cychwyn ei chwrs M.A. mewn Cyfieithu gyda Phrifysgol Bangor. Braf yw cael cymaint o staff galluog!


Trefn ar ein Technoleg
Awst 2018

Mae cael cwmni Technoleg Gwybodaeth profiadol mor hanfodol i unrhyw fusnes, a phrofwyd hynny ym mis Awst. Gyda’r cyfan o’n gwaith yn dod i mewn ar e-bost a ninnau yn ei ddychwelyd ar e-bost hefyd, rhaid sicrhau bod y cysylltiad â’r byd tu allan yn gweithio 24/7. Collwyd y cysylltiad hwn ar ôl i un o’r prif weinyddion (server) chwalu. Wedi cryn dipyn o banig, llwyddodd ein cwmni TG, Catalyst Systems o Ddinbych (ac yn wir tipyn o gymorth gan ddylunydd ein gwefan Dylan Jones o D13 Creative) i ddatrys y cyfan yn raddol dros wythnos o waith caled. Mae ein dyled yn fawr iddynt! Dyma ymateb Fiona McGough o gwmni Catlayst Systems:

It is always worth highlighting the importance of a managed support and backup regime. The problem in a way is that with the ever increasing reliability of electronics people can become complacent about how to recover when something goes wrong. A good question that businesses should ask themselves is do I have a compliant DRP (Disaster Recovery Plan) or BCP (Business Continuity Plan) in place. Surprisingly when we visit a site for the first time we find that not many do.
The DRP / BCP should include all eventualities such as fire, flood or theft. While various elements of a system can fail, e.g. hard disk, keyboard, router, data switches etc. and are relatively easy to recover from; fire, flood or theft would constitute a catastrophe or disaster so consideration must be given as to how you can recover from this scenario. So daily backups that you can rely on are essential. A copy of these also need to be kept off site and if coupled with a cloud backup of essential data only (accounts, databases, spreadsheets etc) costing no more than typically £10 per month will more than adequately provide the DRP that company’s need.
Businesses will also find that their Insurance companies are increasingly likely to ask for their clients to have a DRP / BCP in place before providing cover.


System Gyfrifo Newydd
Gorffennaf 2018

Diolch i waith ein Cyfrifwyr, rydym wedi gosod system gyfrifo newydd a fydd yn gwneud ein bywyd yn llawer iawn haws. O hyn ymlaen byddwn yn defnyddio ein Quickbooks newydd sydd, hyd yma, wedi gweithio’n ddidrafferth!


Croeso i Anna Lewis
Mehefin 2018

Mae’r cwmni’n dal i dyfu! Croeso i Anna sydd newydd ddechrau gweithio i Bla. Mae Anna newydd raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd gyntaf yn y Gymraeg. Yn ferch leol o Rosybol, rydym yn gobeithio’n fawr y bydd Anna’n hapus iawn yma!


Llwyddiant yn yr Urdd
Mai 2018

Llongyfarchiadau i un o’n staff, Meleri Jones am ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth gyfieithu’r Urdd eleni!


Aelod arall o staff yn ymuno!
Ebrill 2018

Bydd Elin Rowlands yn ymuno â’r tîm y mis hwn fel cyfieithydd. Er ei bod hi yng nghanol ei chwrs M.A. Ysgrifennu Creadigol, mi fydd Elin yn gweithio ddau ddiwrnod yr wythnos yma yn y swyddfa, gan ddod yn llawn amser o fis Medi ymlaen. Mae’n bleser cael croesawu Elin i ymuno â’r criw i ddelio â’r cynnydd yn y gwaith sy’n ein cyrraedd yn ddyddiol!


Gweinyddwr newydd
Mawrth 2018

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu Ceri Hughes i ymuno â’r cwmni fel Gweinyddwr. Mae gan Ceri lawer o brofiad o weithio yn y sector cyfieithu yn dilyn blynyddoedd lawer yn gweithio yn uned gyfieithu’r Gwasanaeth Llysoedd yng Nghaernarfon. Croeso Ceri!


Credyd neu Anfoneb - dewiswch chi
Chwefror 2018

Nodyn byr i egluro bod Bla yn cynnig dau fath o wasanaeth i helpu ein cleientiaid. Yn ogystal ag anfon anfoneb am gyfieithiadau swmpus, rydym hefyd yn cynnig y gwasanaeth ‘credyd’, lle gall y cwsmer brynu nifer o gredydau ymlaen llaw a’u defnyddio’n raddol ar gyfer tasgau penodol. Ar gyfer tasgau byr mae hyn mewn gwirionedd ac maent wedi’u creu er mwyn osgoi’r angen i anfon anfonebau am symiau pitw.


Blwyddyn Newydd Dda!
Ionawr 2018

Nawr yw’r adeg i gynllunio eich gwaith ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Cofiwch anfon neges atom os oes gennych chi unrhyw waith cyfieithu sydd ei angen - bach neu fawr!


Close up of the keys and letters on an old typewriter

Cyswllt

Bla Translation Ltd
Neuadd y Dref
Sgwâr Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR

Rhif ffôn: 01248 725730
Ffôn Symudol: 07920 052818
Oriau eraill a thros y penwythnos: 07920 052818

E-Bost: office@bla-translation.co.uk
Gwefan: www.bla-translation.co.uk

Bla Translation team

Nôl i'r Top