Yma yn Bla, mae gennym ni dros 13 mlynedd o brofiad o wasanaethu ein cleientiaid gwerthfawr gyda gwasanaethau cyfieithu Cymraeg o’r radd flaenaf. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael y pleser o weithio gyda chleientiaid sy’n troi atom ni dro ar ôl tro, yn ogystal â chroesawu rhai newydd. Un peth sydd gan y cwbl yn gyffredin yw’r cwestiynau maen nhw’n eu gofyn i ni ynglŷn â gwasanaethau Bla. Felly, dyma i chi amlinelliad o’r cwestiynau cyffredin hynny:
1) Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
Mae ein tîm yn arbenigo mewn cyfieithu, golygu a phrawfddarllen dogfennau. Oherwydd ein sylfaen gleientiaid amrywiol, rydym yn gyfarwydd â chyfieithu pob math o bethau, o Beirianneg i’r Byd Addysg, o’r Argyfwng Hinsawdd i Bynciau Llosg a phopeth yn y canol. Rydym yn gyfforddus gyda chyfieithu brawddegau byr a bachog ar gyfer deunydd marchnata, yn ogystal â dogfennau hirach, mwy technegol eu naws fel adroddiadau. Trafodwch eich gofynion gyda’n Huned Fusnes er mwyn i’n tîm cyfieithu gyflawni’r canlyniadau gorau i chi.
2) Pa gymwysterau sydd gan eich staff ieithyddol?
Mae gennym ni 8 Cyfieithydd ac un Cyfieithydd dan Hyfforddiant yma yn Bla, yn ogystal â chronfa yn cynnwys tua 20 o Gyfieithwyr Llawrydd y mae’r cwbl wedi’u cymeradwyo i weithio gyda ni gan ein Cyfarwyddwr. Mae ein tîm mewnol cymwys yn meddu ar gymwysterau hyd at lefel gradd (ac ôl-radd mewn rhai achosion). Ar hyn o bryd, mae ein Cyfieithydd dan Hyfforddiant yn dilyn rhaglen hyfforddiant arbennig wedi’i theilwra iddi hi’n bersonol dan oruchwyliaeth ein Rheolwr Cyfieithu – Ansawdd a’n Cyfarwyddwr, sydd hefyd yn cynnwys elfen o hyfforddiant arbenigol gan ddarparwr allanol. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein staff profiadol, cymerwch gip ar ein tudalen Cefndir.
3) Beth yw eich ffioedd?
Mae ein ffioedd yn amrywio, yn dibynnu ar y gwasanaeth sydd ei angen arnoch chi, gan gyd-fynd â’r diwydiant cyfieithu. Fel arfer, caiff gwasanaeth cyfieithu ei brisio yn seiliedig ar nifer geiriau. Mae croeso i chi lenwi ffurflen gyswllt yma ac fe gysylltwn yn ôl â chi cyn pen 24 awr.
4) Beth yw eich amseroedd dychwelyd gwaith?
Rydym yn cynnig amseroedd dychwelyd gwaith yn seiliedig ar sawl ffactor: eich gofynion chi, cymhlethdod y ddogfen, ein capasiti ni o ran adnoddau, felly mae ein hamseroedd dychwelyd gwaith yn amrywio. Byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi beth yw dyddiad dychwelyd disgwyliedig darn o waith cyn dechrau ar y broses gyfieithu. Os oes gennych chi ddyddiad dychwelyd penodol mewn golwg, yna rhowch wybod i ni. Rydym yn gwerthfawrogi cyfathrebu agored a gonest gyda’n cleientiaid ac, felly, ni fyddwn byth yn gwneud addewidion na allwn mo’u cyflawni.
5) Ydych chi’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial neu AI?
Nid ydym yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ein gwaith. Yn hytrach, defnyddiwn Feddalwedd Cof Cyfieithu. Ein Cyfieithwyr ni ein hunain sy’n bwydo i mewn i’n Cof, a chaiff ei gynnal a’i gadw’n rheolaidd. MemoQ yw’r dechnoleg Cof Cyfieithu yr ydym ni’n ei defnyddio yma yn Bla, sef cwmni poblogaidd yn y diwydiant sydd wedi ennill enw da. Mae yna sawl mantais i ddefnyddio Cof Cyfieithu; gwella cysondeb ar draws dogfennau, cyflymu’r broses gyfieithu, hwyluso cydweithio yn ein tîm ac mae hyn i gyd yn golygu y gallwn gynnig y gwasanaeth gorau i’n cleientiaid.
6) I ba ieithoedd eraill allwch chi gyfieithu?
Yn 2023, sefydlasom Bla2, sef ein Huned Ieithoedd Rhyngwladol. Golyga hyn y gall sefydliadau droi atom ni i ymgymryd â’u holl anghenion cyfieithu, gan symleiddio eu cadwyn gyflenwi a chaniatáu iddynt elwa ar wasanaeth cwsmer enwog Bla. Ar wahân i’r Gymraeg, rydym yn arbenigo mewn Arabeg, Wrdw, Rwmaneg, Pwyleg a Ffrangeg, ond gallwn ymgymryd â thasgau cyfieithu mewn ieithoedd eraill hefyd. Ewch draw i’n tudalen Bla2 i gael gwybod mwy.
Os nad ydym wedi ateb eich cwestiwn yn yr uchod, yna mae croeso i chi gysylltu â ni drwy lenwi ffurflen gyswllt yma a bydd un o’n tîm yn eich ateb mewn da bryd.